Gosodwyd amodau ar gofrestriad rheolwr gofal preswyl i blant o Fro Morgannwg am dair blynedd ar ôl i wrandawiad canfod fod camymddygiad difrifol wedi amharu ar ei addasrwydd i ymarfer.
Cyhuddwyd Lee Griffiths o fwlio ei gydweithwyr ar ôl iddo ymddwyn mewn modd amhriodol ac amhroffesiynol tuag atynt, gan wneud sylwadau dirmygus, a rhegi a gweiddi arnynt.
Disgrifiwyd ymddygiad Mr Griffiths tuag at ei gydweithwyr fel ymddygiad ymosodol, blin, bygythiol a bychanol ar adegau.
Clywodd y gwrandawiad fod Mr Griffiths hefyd wedi ymddwyn yn amhriodol ac yn ymosodol tuag at berson ifanc yn y cartref plant roedd yn ei reoli, gan weiddi ar y person ifanc i’w ddeffro a gwneud sylwadau amhriodol am bwysau’r person ifanc.
Yn ogystal, cyfaddefodd Mr Griffiths – a oedd yn bresennol gyda’i gyflogwr cyfredol yn y gwrandawiad saith diwrnod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd rhwng 5 ac 13 Chwefror 2020 – iddo gamreoli arian yn anonest yn y cartref a chyflwyno hawliad am oramser a oedd yn cynnwys oriau nad oedd wedi’u gweithio.
Ar ôl clywed y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod camymddygiad difrifol yn amharu ar addasrwydd Mr Griffiths i ymarfer ar hyn o bryd.
Wrth egluro ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Yn ein barn ni, mae pob un o’r materion rydym yn barnu eu bod wedi’u profi yn cynrychioli ymddygiad nad yw’n cyrraedd y safonau priodol ym maes ymarfer gofal cymdeithasol proffesiynol o bell ffordd.”
Cydnabu’r panel na fynegwyd unrhyw bryderon am ymddygiad Mr Griffiths yn y cartref plant y mae’n ei reoli ar hyn o bryd a’i fod wedi clywed tystiolaeth gan ei gyflogwr cyfredol, sydd wedi’i gefnogi gydol y gwrandawiad, ei fod “yn gwneud cynnydd da o ran unioni’r agweddau hyn” ar ei ymarfer.
Er gwaethaf y gwelliant hwn, dywedodd y panel: “Ni allwn fod yn gwbl fodlon na fyddech chi’n gwneud penderfyniadau anonest yn y dyfodol pe bai amgylchiadau heriol yn codi.”
“Felly, ar hyn o bryd rydych yn peri risg i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau pe baech chi’n dychwelyd i ymarfer anghyfyngedig.”
Penderfynodd y panel osod amodau ar gofrestriad Mr Griffiths am dair blynedd.
Wrth egluro ei benderfyniad, dywedodd y panel wrth Mr Griffiths: “Mae’r gorchymyn yn adlewyrchu difrifoldeb y materion rydym yn barnu sydd wedi’u profi, yn cydbwyso diogelu’r cyhoedd gyda chymesuredd, ac yn darparu fframwaith i chi barhau i wneud cynnydd.”