Jump to content
Gosod amodau ar gofrestriad gweithiwr cymdeithasol oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Gosod amodau ar gofrestriad gweithiwr cymdeithasol oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae amodau wedi’u gosod ar gofrestriad gweithiwr cymdeithasol o Gaerdydd am 12 mis ar ôl i wrandawiad dod i’r casgliad fod camymddwyn difrifol wedi amharu ar ei addasrwydd i ymarfer.

Yn ystod y gwrandawiad, cyfaddefodd Sean Wharton iddo fethu sicrhau iddo gofnodi achos dros gyfnod o bedair blynedd, a methu cynnal ymweliadau goruchwylio addas a rhoi cymorth priodol i ofalwr maeth.

Hefyd, cyfaddefodd Mr Wharton iddo ymddwyn yn amhriodol trwy anfon a derbyn gwybodaeth gyfrinachol, fel enwau plant, cofnodion gofalwyr maeth ac adroddiadau meddygol, i ac o gyfrifon e-bost preifat, gan gyfaddef diffyg uniondeb.

Ar ben hynny, cyfaddefodd Mr Wharton iddo anfon lluniau amhriodol o oedolion a fideo amhriodol o natur rywiol o ddau oedolyn o’i e-bost gwaith.

Yn ystod y gwrandawiad, esboniodd Mr Wharton iddo dderbyn y lluniau a’r fideo fel rhan o grŵp cyfryngau cymdeithasol ar ei ffôn symudol, lle’r oedd ganddo gysylltiad â’i e-bost gwaith a phersonol, ac iddo eu hanfon yn ddamweiniol o’i gyfrif gwaith yn hytrach na’i gyfrif personol. Roedd yn derbyn bod ei weithredoedd yn annerbyniol ac amhroffesiynol.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod camymddwyn difrifol wedi amharu ar addasrwydd Mr Wharton i ymarfer ar hyn o bryd

Wrth esbonio ei benderfyniad, meddai’r panel: “Yn ein barn ni, mae’r ymddygiad yng nghyhuddiadau 1, 2 a 4 yn sylweddol is na’r hyn a fyddai’n briodol ym maes ymarfer gofal cymdeithasol proffesiynol ac yn croesi trothwy camymddwyn difrifol.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Mae natur eich gwaith yn golygu y byddwch yn wynebu amgylchiadau heriol os byddwch yn dychwelyd i ymarfer.

“O gofio hyn, a’i bwyso yn erbyn y dystiolaeth sydd o’n blaenau, y ddirnadaeth rydym wedi’i gweld gennych, a’ch adferiad datblygol (ond nid cyflawn), ni allwn ddod i’r casgliad ar hyn o bryd y byddwch yn annhebygol o ymddwyn fel hyn eto.”

Felly, penderfynodd y panel osod amodau ar gofrestriad Mr Wharton am 12 mis.

Dywedodd y panel wrth Mr Wharton: “Mae hyn, yn ein barn ni, yn adlewyrchu difrifoldeb y materion a brofwyd, yn cydbwyso amddiffyn y cyhoedd gyda chymesuredd, ac yn cynnig fframwaith i chi barhau â'r cynnydd rydych chi’n ei wneud”.

Cynhaliwyd y gwrandawiad deuddydd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd wythnos diwethaf.