Jump to content
Pedwar ar ddeg o brosiectau a 10 gweithiwr gofal wedi'u henwi yn rownd derfynol gwobrau gofal mawreddog
Newyddion

Pedwar ar ddeg o brosiectau a 10 gweithiwr gofal wedi'u henwi yn rownd derfynol gwobrau gofal mawreddog

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae prosiect arloesol i helpu i gael y rhai sy’n gadael gofal i mewn i waith, prosiect sy’n cefnogi’r gymuned LGBTQ+ ifanc a dirprwy reolwr cartref gofal a ddysgodd Gymraeg i gefnogi pobl â dementia ac anghenion cymhleth ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau mawreddog.

Mae’r gwobrau, a drefnir gan Ofal Cymdeithasol Cymru, yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu arfer rhagorol mewn gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae’r Gwobrau yn agored i weithwyr gofal ar bob lefel, yn ogystal â thimau, prosiectau a sefydliadau ar draws y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd pobl.

Dewiswyd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni gan banel o feirniaid a oedd yn cynnwys aelodau Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, cynrychiolwyr o sefydliadau partner a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.

Cyhoeddir yr enillwyr yn seremoni wobrwyo’r Gwobrau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, ddydd Iau, 21 Ebrill 2022.

Meddai Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod gennym grŵp mor gryf o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol sy’n arddangos y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar ledled Cymru.

“Mae eleni wedi bod yn un anodd a heriol arall i’n gweithlu. O ganlyniad, mae hi mor bwysig ein bod yn cymryd yr amser i gydnabod a dathlu’r gofal a’r cymorth rhagorol sy’n cael eu darparu bob dydd ym mhob cymuned yng Nghymru.

“Llongyfarchiadau i’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Edrychaf ymlaen at eich croesawu i gyd i’r seremoni wobrwyo ar 21 Ebrill, a chydnabod, dathlu a rhannu eich ymdrechion a’ch cyflawniadau, ac ymdrechion a chyflawniadau’r sector gofal ehangach.”

Dysgwch mwy am y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau 2022