Rydyn ni'n anfon e-fwletin rheolaidd at bawb ar ein Cofrestr. Mae pob e-fwletin yn cynnwys neges gan ein Prif Weithredwr, Sarah McCarty.
Dyma neges Sarah o e-fwletin Hydref 2025 yn ei gyfanrwydd.
Rydyn ni'n anfon e-fwletin rheolaidd at bawb ar ein Cofrestr. Mae pob e-fwletin yn cynnwys neges gan ein Prif Weithredwr, Sarah McCarty.
Dyma neges Sarah o e-fwletin Hydref 2025 yn ei gyfanrwydd.
Croeso i'r bwletin diweddaraf gan Ofal Cymdeithasol Cymru.
Rydyn ni’n falch o gefnogi'r sector gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar – nid yn unig drwy reoleiddio a datblygu'r gweithlu, ond drwy weithio ochr yn ochr â phartneriaid i helpu gwasanaethau i wella a ffynnu.
Un o'r ffyrdd rydyn ni'n gwneud hyn yw drwy rannu'r dystiolaeth ddiweddaraf ar bynciau rydych chi wedi'u dweud wrthym sy'n bwysig, tynnu sylw at ymarfer da, a chynnig cymorth uniongyrchol i sefydliadau ledled Cymru.
Bob dydd, mae gwaith ysbrydoledig yn cael ei wneud, gan gefnogi unigolion mewn cymunedau ledled y wlad. Rydyn ni eisiau dathlu hynny. Un o uchafbwyntiau ein blwyddyn yw'r Gwobrau. Mae'n gyfle i gydnabod yr unigolion, y timau a'r prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Rydyn ni’n gyffrous i lansio'r alwad am geisiadau ar gyfer Gwobrau 2026. Os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n gwneud rhywbeth gwych, hoffen ni clywed amdano.
Rydyn ni’n gwybod bod cefnogi gwelliant yn mynd y tu hwnt i ddathlu a rhannu ymarfer. Un maes rydyn ni wedi bod yn gweithio arno gyda phartneriaid yw edrych ar sut y gall offer digidol wella gwasanaethau. Mae adroddiad newydd sy’n seiliedig ar ganfyddiadau ein dyfais botensial ddigidol wedi argymell camau y gellid eu cymryd i hybu sgiliau a galluoedd digidol ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae gofal o ansawdd uchel yn golygu diwallu anghenion iaith pobl. Gyda Diwrnod Shwmae Su'mae (15 Hydref) yn agosáu, mae'n amser gwych i fyfyrio ar eich cynnig rhagweithiol Cymraeg ac ystyried dysgu neu wella eich Cymraeg. Fe welwch ragor o fanylion yn y bwletin hwn.
Mae'r bwletin hwn yn cynnwys ychydig o'r adnoddau a'r cyfleoedd sydd ar gael i chi. Os hoffech wybod mwy, mae ein gwasanaeth cymorth i gyflogwyr bob amser yma i helpu.
Diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud i gefnogi pobl a theuluoedd ledled Cymru.
Dymuniadau cynnes,
Sarah