Rydym am glywed gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol am sut mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar eich iechyd a’ch llesiant.
Rhowch wybod i ni am eich bywyd gwaith a sut rydych chi wedi bod yn ymdopi yn ystod y pandemig trwy lenwi arolwg byr, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Ulster gyda’n cefnogaeth.
Trwy lenwi’r arolwg, rydych yn helpu ymchwilwyr i gael darlun cliriach o’r effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
Beth mae’r ymchwil wedi’i ddatgelu hyd yn hyn
Dyma’r pumed arolwg mewn cyfres sydd wedi bod yn edrych ar brofiadau’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar adegau amrywiol ers dechrau’r pandemig.
Mae canlyniadau’r pedwerydd arolwg, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn datgelu bod y gweithlu’n cael trafferth o hyd â’r newidiadau a achoswyd gan y pandemig. Mae’r newidiadau hyn wedi gosod galwadau ychwanegol ar staff, gan arwain at gynnydd mewn straen a llai o forâl a boddhad â’r gwaith.
Sut i gymryd rhan
Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg yma. Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i’w lenwi a bydd eich ymatebion yn gwbl ddienw.
Mae’r arolwg ar agor tan 8 Gorffennaf.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Patricia Gillen ar p.gillen@ulster.ac.uk neu patricia.gillen@southerntrust.hscni.net neu Dr Ruth Neil ar r.neill@ulster.ac.uk.