Jump to content
Dywedwch wrthym ni sut rydych chi wedi bod yn ymdopi yn ystod y pandemig
Newyddion

Dywedwch wrthym ni sut rydych chi wedi bod yn ymdopi yn ystod y pandemig

| Gofal Cymdeithasol Cymru

A ydych chi’n weithiwr cymdeithasol neu’n weithiwr gofal cymdeithasol? Os felly, hoffem glywed gennych chi i gael gwybod am yr heriau rydych chi wedi’u hwynebu yn ystod pandemig Covid-19 a sut rydych chi wedi ymdopi â nhw.

Gallwch rannu eich profiadau drwy lenwi arolwg byr gan Brifysgol Ulster, sy’n cael ei gefnogi gennym ni, sy’n edrych ar sut mae’r pandemig wedi effeithio ar iechyd a llesiant gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU.

Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar sut mae ansawdd eich bywyd gwaith, eich llesiant a’ch strategaethau ymdopi wedi newid dros y chwe mis diwethaf ac wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio.

Yr arolwg yw’r trydydd mewn cyfres o dri arolwg, a hoffai’r tîm ymchwil ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolygon cynharach.

Mae’r ddau arolwg cyntaf wedi datgelu bod llesiant ac ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig â gwaith y rheini sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi gostwng yn ystod y pandemig.

Dywedodd bron i 75 y cant o’r rhai a gymerodd ran yn yr arolygon eu bod wedi dioddef lefelau cymedrol i uchel o orweithio personol, a bod dwy ran o dair wedi gorweithio oherwydd gwaith.

Dywedodd y rhai a gymerodd ran yn yr arolygon hefyd eu bod yn defnyddio strategaethau ymdopi mwy negyddol, fel beio eu hunain a bwrw llid i ddelio â’r straen cynyddol yn y gwaith, yn hytrach na strategaethau ymdopi cadarnhaol, fel cefnogaeth emosiynol a chynllunio.

Bydd yr wybodaeth o'r arolygon yn cael ei defnyddio i helpu cyflogwyr wneud gwelliannau i gefnogi anghenion y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig ac ar ei ôl.

Cymerwch ran yn yr arolwg, a dysgwch fwy am y prosiect (Saesneg yn unig).