Mae rheolwr cymunedol o Gonwy, sydd wedi'i chofrestru fel gweithiwr gofal cartref, wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.
Clywodd y gwrandawiad fod Judith Maloney, ym mis Mai 2020, wedi rhoi'r feddyginiaeth anghywir i rywun yn ei gofal, heb roi gwybod am y camgymeriad a chofnodi’n ffug ei bod wedi darparu'r feddyginiaeth gywir.
Dywedwyd wrth y panel hefyd fod Ms Maloney wedi ceisio cuddio'r ffaith ei bod wedi rhoi'r feddyginiaeth anghywir drwy gymryd y feddyginiaeth gywir i ffwrdd i'w dinistrio a gofyn i gydweithiwr beidio â dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd.
Mewn gwrandawiad disgyblu gyda'i chyflogwr, cyfaddefodd Ms Maloney y cyhuddiadau a dywedodd ei bod yn difaru ei gweithredoedd a’i bod yn ymddiheuro.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod amhariad ar addasrwydd i ymarfer Ms Maloney ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.
Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: " Fe wnaeth [Ms Maloney] roi defnyddiwr gofal a gwasanaethau cymorth agored i niwed mewn perygl drwy ei hymddygiad. Fe wnaeth ei methiant i... roi'r feddyginiaeth gywir i [rywun yn ei gofal] a'i methiant i roi gwybod am ei chamgymeriad, roi’r [unigolyn] mewn perygl posibl o salwch difrifol.
"Cafodd hyn ei ddwysáu gan y camau a gymerwyd gan Ms Maloney i guddio ei methiant yn hyn o beth."
Ychwanegodd y panel: "Mae Ms Maloney wedi dirnad ei hymddygiad ac wedi derbyn ei chamweddau ei hun, i'w chyflogwr fel rhan o'u proses ddisgyblu ac i Ofal Cymdeithasol Cymru y mae wedi cydweithredu â nhw.
"Fodd bynnag, rydym yn pryderu am ddyfnder y ddirnadaeth a ddangoswyd gan Ms Maloney. Yn anffodus, nid ydym wedi cael y fantais o glywed gan Ms Maloney heddiw i ddeall a yw wedi myfyrio ar, a chymryd unrhyw gamau, i unioni ei hymddygiad.
"O ganlyniad, nid ydym yn hyderus na fyddai ei hymddygiad yn cael ei ailadrodd yn y dyfodol. Ategir hyn gan y ffaith bod Ms Maloney ei hun yn derbyn bod amhariad ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd. Felly, nid ydym yn dawel ein meddwl nad yw bellach yn peri risg i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth."
Penderfynodd y panel dynnu Ms Maloney oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: "Rydym o'r farn bod [Gorchymyn Dileu] yn gymesur ac yn angenrheidiol i ddiogelu'r cyhoedd a budd ehangach y cyhoedd.
"Rydym o'r farn mai dyma'r unig opsiwn priodol o ystyried anonestrwydd Ms Maloney a’r ffaith ei bod wedi cuddio ei chamweddau."
Nid oedd Ms Maloney yn bresennol yn y gwrandawiad undydd, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.