Mae gweithiwr gofal cartref o Ynys Môn wedi’i dynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.
Ar 18 Mai 2020, aeth Heidi Dunt i gartref person agored i niwed yn ystod y pandemig Covid-19 a cheisio darparu gofal iddo heb wisgo’r cyfarpar amddiffynnol personol cywir.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad nad oedd Ms Dunt, bryd hynny, yn gweithio i’r asiantaeth gofal cartref a oedd yn darparu gofal i’r person agored i niwed mwyach, ac felly nad oedd ganddi reswm i ymweld â’i gartref na cheisio darparu gofal iddo.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad nad oedd Ms Dunt wedi cadw pellter cymdeithasol yn y cartref, a bod ei gweithredoedd amhriodol wedi rhoi pobl mewn perygl diangen o niwed ac yn torri rheoliadau’r coronafeirws.
Yn ogystal, clywodd y panel fod Ms Dunt, ar 11 Mehefin 2020, wedi cael dedfryd ohiriedig am ddwy drosedd o achosi anaf difrifol trwy yrru’n beryglus, ac nad oedd wedi dweud wrth Ofal Cymdeithasol Cymru am yr ymchwiliad parhaus gan yr heddlu.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad bod addasrwydd Ms Dunt i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.
Esboniodd y panel ei benderfyniad, trwy ddweud: “Canfyddwn fod ymddygiad Ms Dunt yn ddifrifol. Rhoddodd unigolion, gan gynnwys defnyddiwr gwasanaeth agored i niwed, mewn perygl diangen o niwed. Rydym hefyd wedi canfod bod Ms Dunt wedi bod yn anonest ac wedi dangos diffyg uniondeb.”
Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Er bod euogfarn Ms Dunt yn ddifrifol ac wedi arwain at ddedfryd garchar ohiriedig, mae’n ymwneud â throsedd yrru. Ystyriwn fod hyn yn ddigwyddiad ar wahân nad yw’n amharu ar addasrwydd Ms Dunt i ymarfer… Plediodd yn euog i’r drosedd ac mae wedi bwrw ei dedfryd yn unol â hynny.”
O ran y cyhuddiadau eraill, dywedodd y panel: “Nid yw Ms Dunt wedi cydnabod unrhyw gamwedd ar ei rhan hi… Nid yw wedi dangos unrhyw ddirnadaeth, edifeirwch na myfyrdod ynglŷn â’i hymddygiad na’i effaith ar ddefnyddiwr gwasanaeth agored i niwed.
“Ni roddwyd unrhyw dystiolaeth i ni i ddangos ei bod wedi cymryd camau i unioni ei hymddygiad. Felly, ni allwn fod yn hyderus na fydd yn digwydd eto.”
Penderfynodd y panel i dynnu Ms Dunt o’r Gofrestr, gan ddweud: “[B]yddai hyder yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yn cael ei danseilio trwy ganiatáu i Ms Dunt aros ar y Gofrestr.
“Nid ydym o’r farn bod unrhyw ffordd arall o ddiogelu’r cyhoedd o ganlyniad i’w diffyg dirnadaeth llwyr ac unrhyw dystiolaeth fod ei hamhariad yn debygol o gael ei unioni’n foddhaol.”
Nid oedd Ms Dunt yn bresennol yn y gwrandawiad tridiau o bell, a gynhaliwyd trwy Zoom yr wythnos ddiwethaf.