Mae gweithiwr gofal cartref o Rondda Cynon Taf wedi cael ei dynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.
Roedd Jimi Sherrard yn gweithio fel gweithiwr cymorth i wasanaeth sy’n cynorthwyo unigolion agored i niwed, pan gyhuddwyd ef gan berson ifanc a gynorthwyir gan y gwasanaeth o’i galw hi’n amhriodol ac anfon negeseuon testun amhriodol ati.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Mr Sherrard wedi galw ac anfon negeseuon testun at y person ifanc agored i niwed droeon ar 27 a 28 Mehefin 2020, a’i fod wedi gwneud sylwadau amhriodol o natur rywiol ar fwy nag un achlysur.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Mr Sherrard wedi rhoi ei rif ffôn personol i’r person ifanc yn amhriodol ac wedi cysylltu â hi heb reswm pan nad oedd yn ei chynorthwyo’n ffurfiol mwyach. Yn ogystal, ni ddywedodd wrth ei gyflogwr ei fod yn parhau i gysylltu â’r person ifanc.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd Mr Sherrard i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd ei gamymddwyn difrifol.
Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Nid yw [Mr Sherrard] wedi dangos dealltwriaeth arwyddocaol o’r ffaith ei fod wedi niweidio’r person ifanc ac nid yw wedi mynegi edifeirwch.
“Byddai hyn yn fan cychwyn ar gyfer unrhyw ystyriaeth o b’un a oedd wedi unioni ei amhariad yn y cyfnod ers mis Mehefin y llynedd. Canfyddwn nad oes unrhyw dystiolaeth o unioni...”
Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Byddai hyder y cyhoedd yn cael ei danseilio pe na fyddai canfyddiad o amhariad yn cael ei wneud mewn achos lle mae gweithiwr gofal cymdeithasol wedi ceisio ffurfio perthynas amhriodol ag unigolyn agored i niwed.”
Penderfynodd y panel dynnu Mr Sherrard o’r Gofrestr, gan ddweud: “Rydym wedi penderfynu mai Gorchymyn Dileu yw’r unig opsiwn priodol o ystyried difrifoldeb gweithredoedd Mr Sherrard a’i ddiffyg dealltwriaeth a chamau effeithiol i leihau’r perygl y byddai’n gweithredu yn yr un ffordd yn y dyfodol.”
Nid oedd Mr Sherrard yn bresennol yn y gwrandawiad tridiau, a gynhaliwyd trwy Zoom yr wythnos ddiwethaf.