Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd euogfarn droseddol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd euogfarn droseddol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd ei heuogfarn droseddol.

Ym mis Medi 2021, plediodd Yasmin Pugh yn euog yn Llys y Goron Abertawe i ddwyn gwerth £16,000 o eitemau oddi wrth unigolyn bregus o dan ei gofal ac yna cafodd ddedfryd o 16 mis yn y carchar a ohiriwyd am 24 mis.

Clywodd y gwrandawiad na ddywedodd Ms Pugh wrth Ofal Cymdeithasol Cymru am yr honiadau yn ei herbyn, ymchwiliad yr heddlu na'i heuogfarn, a dim ond ar ôl gweld erthygl newyddion ar-lein am yr achos llys y cafodd Gofal Cymdeithasol Cymru wybod.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i'r casgliad fod addasrwydd i ymarfer Ms Pugh wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd ei heuogfarn droseddol.

Esboniodd y panel ei benderfyniad, gan ddweud: "Cyflawnwyd sawl gweithred o ddwyn yn erbyn y fenyw oedrannus, fregus hon a'i nith. Cymerwyd arian, talebau siopa a nifer o ddarnau o emwaith. Cafodd y gemwaith ei waredu ar wahanol adegau drwy siopau gemwaith yn Llanelli.

O ran y dioddefwr dan sylw, nid oedd hyn, yn ein barn ni, yn ddigwyddiad untro prin, ond yn hytrach roedd yn gyfystyr â phatrwm o ymddygiad ymelwol a chamdriniol, ac mae tystiolaeth uniongyrchol bod niwed ariannol ac emosiynol wedi cael ei achosi i'r dioddefwr a'i theulu ehangach." ”

Ychwanegodd y panel: "Nid oes tystiolaeth ger ein bron bod Ms Pugh wedi myfyrio ar sut y methodd ei hymddygiad fodloni'r safon a ddisgwylir. Nid oes dim ger ein bron i ddangos sut mae hi wedi cymryd (neu y byddai'n cymryd) camau i warchod rhag risg ymddwyn mewn ffordd debyg yn y dyfodol.

"Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth i'r gwrthwyneb, mae perygl gwirioneddol a phendant y byddai Ms Pugh yn troi at y math hwn o ymddygiad yn y dyfodol, yn enwedig pe bai mewn amgylchiadau personol tebyg yn y dyfodol."

Penderfynodd y panel dynnu Ms Pugh oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: "Nid ydym o'r farn y byddai unrhyw warediad llai yn amddiffyn y cyhoedd, o ystyried y diffyg mewnwelediad ac adfer yr ydym eisoes wedi cyfeirio ato, a'r anonestrwydd sy'n rhan o'r drosedd a gyflawnwyd gan Ms Pugh."

Doedd Ms Pugh ddim yn bresennol yn y gwrandawiad undydd, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.