Jump to content
Digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol i amlygu pwysigrwydd gofalu yn Gymraeg
Newyddion

Digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol i amlygu pwysigrwydd gofalu yn Gymraeg

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd y digwyddiad yn arddangos llwyddiannau'r enillydd ac eraill a gyrhaeddodd rownd derfynol categori Gofalu trwy’r Gymraeg Gwobrau 2022, a gynhaliwyd ddiwedd mis Ebrill.

Bydd enillydd y wobr, Alaw Pierce, Rheolwr Gwasanaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych, yn mynychu’r digwyddiad, ynghyd â’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, Keneuoe Morgan, Dirprwy Reolwr Cartref Preswyl Hafod Mawddach yng Ngwynedd, ac Angharad White, Rheolwr Cartref Gofal Oedolion yn Rhondda Cynon Taf.

Bydd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price, hefyd yn siarad am bwysigrwydd darparu gofal i bobl yn eu dewis iaith.

Bydd trosolwg o’r gwaith rydym yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg yn y sector, ac o’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi gweithwyr gofal. A bydd cyfle i wylio fideos o bobl yn egluro yn eu geiriau eu hunain beth mae derbyn gofal yn Gymraeg yn ei olygu iddyn nhw.

Cynhelir y digwyddiad, a gyflwynir gan ein Haelod Bwrdd Trystan Pritchard, ym Mhabell Cymdeithasau 1 rhwng canol dydd ac 1pm.

Mae croeso i bawb fynychu.