Jump to content
Dathlu llwyddiant Cymru a chynllunio ar gyfer dyfodol gwell i ofal yng Nghymru
Newyddion

Dathlu llwyddiant Cymru a chynllunio ar gyfer dyfodol gwell i ofal yng Nghymru

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Mae dau ddigwyddiad pwysig wedi hoelio ein sylw yn ddiweddar.

Y cyntaf oedd dathlu’r gwaith rhagorol y mae gweithwyr gofal wedi bod yn ei wneud ac yn dal i’w wneud, a’r llall oedd lansio ein cynllun lefel uchel ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Gwyddom pa mor lwcus ydyn ni yma yng Nghymru i gael pobl mor fedrus ac ymrwymedig yn darparu gofal a chefnogaeth i rai o’n hunigolion mwyaf bregus, ynghyd â’r gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant hynny sy’n gwneud cymaint i roi cychwyn gwych i’n plant.

Ond mae’n dal yn braf gweld a chlywed o lygad y ffynnon am y gwaith anhygoel mae’r bobl hyn yn ei wneud. A dyna wnaethon ni yn y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, wrth gydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Roedd dau ddeg pedwar wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn categorïau ar gyfer prosiectau ac unigolion anhygoel. Ac, am y tro cyntaf mewn tair blynedd a hanner, roedden ni’n gallu cyfarfod a rhoi teyrnged iddyn nhw wyneb yn wyneb.

Yr enillwyr oedd:

  • Adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent am ei phrosiect ‘BG Hub’, i helpu plant rhwng 14 ac 18 oed sydd angen gofal a chymorth.
  • Adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am ei phrosiect ‘Attitude for Gratitude’, sy’n cefnogi gwell lles meddyliol i staff.
  • Adran gofal cymdeithasol a thai Cyngor Sir Penfro am ei ‘Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro’, sy’n annog pobl ag anabledd i anelu at weithio.
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro am ei phrosiect ‘Cymunedau Cefnogol Dementia’, sy’n ceisio gwella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a gofalwyr.
  • Gwasanaethau Cymorth Seren, sydd wedi dod yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac sy’n gwobrwyo staff sy’n dangos ymrwymiad i’r cwmni a datblygiad eu gyrfa.
  • Alaw Pierce, Rheolwr Gwasanaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych, a enillodd y wobr Gofalu yn Gymraeg am hyrwyddo hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Keri Llewellyn, Rheolwr All Care (South Wales) Ltd, a enillodd wobr Gofalwn Cymru am wella bywydau pobl hŷn a phobl fregus.

Ein digwyddiad pwysig nesaf oedd lansio ein cynllun strategol pum mlynedd.

Nod y cynllun hwn yn sicrhau wyth canlyniad, neu ddeilliannau, erbyn 2027:

  • gwella lles y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar
  • gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sy’n cael ei gydnabod a’i werthfawrogi ar y lefel uchaf
  • ymarfer a pholisi gofal cymdeithasol sy’n seiliedig ar arloesi, ymchwil o ansawdd uchel, data a mathau eraill o dystiolaeth
  • gweithlu cofrestredig y mae gan y cyhoedd hyder ynddo
  • gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar gyda chymwysterau addas, gwybodaeth a sgiliau, gyda’r gwerthoedd, ymddygiad ac ymarfer priodol
  • denu, recriwtio a chadw pobl gyda’r gwerthoedd iawn i weithio ym maes gofal
  • gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n manteisio i’r eithaf ar gryfderau pobl wrth ddarparu gofal a chymorth iddynt
  • gwasanaethau effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel yn cael eu darparu gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Byddai cyflawni’r canlyniadau hyn yn gwireddu ein gweledigaeth o wneud gwahaniaeth positif i ofal a chymorth yng Nghymru i blant, oedolion a’u teuluoedd a gofalwyr.

Nid Gofal Cymdeithasol Cymru yn unig sy’n meddu ar y canlyniadau hyn. Maent yn ganlyniadau cenedlaethol sy’n cael eu rhannu, a bydd angen cyfranogiad pwysig sefydliadau eraill ledled Cymru i sicrhau’r canlyniadau y mae pawb am eu gweld. Felly, bydd gweithio mewn partneriaeth yn hollbwysig.

Bydd hefyd angen i ni fod yn hyblyg. Fel y mae Covid wedi ein hatgoffa, rydym yn byw mewn byd sy’n newid ar amrantiad, byd sy’n llawn digwyddiadau annisgwyl.