Jump to content
Dangosfwrdd newydd ar gyfer deall gwariant awdurdodau lleol ar ofal cymdeithasol
Newyddion

Dangosfwrdd newydd ar gyfer deall gwariant awdurdodau lleol ar ofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn ddiweddar, lansiwyd dangosfwrdd newydd gennym yn dangos gwariant awdurdodau lleol ar ofal cymdeithasol. Mae’r dangosfwrdd newydd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg, fel rhan o’n porth data gofal cymdeithasol cenedlaethol ar gyfer Cymru ac mae’n darparu gwybodaeth am wariant awdurdodau lleol yng Nghymru.

Prif bwrpas ein dangosfwrdd yw gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr weld y data sydd ei angen arnynt.

Rydym ni wedi darparu golwg lefel uchel, gan gynnwys tueddiadau gwariant awdurdodau lleol ar wasanaethau gofal a chymorth, er mwyn llywio eich prosesau cynllunio gwasanaethau.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r dangosfwrdd yn cynnwys system hawdd i’w defnyddio a gallwch weld gwariant ac incwm awdurdodau lleol unigol a lluosog yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.

Gallwch weld tueddiadau gwariant ac incwm a’u cymharu ar draws amrywiaeth o ddarpariaeth gwasanaethau.

Pa wybodaeth sydd ar gael i mi?

Rydym wedi rhannu’r data fel a ganlyn:

Yr holl wariant gofal cymdeithasol.

Gwasanaethau i Oedolion – gan gynnwys data gwariant ar:

  • - Pobl 65 oed a hŷn
  • - Oedolion o dan 65 oed sydd ag anableddau dysgu
  • - Oedolion o dan 65 oed sydd ag anableddau corfforol neu nam ar y synhwyrau
  • - Oedolion o dan 65 oed sydd ag anghenion iechyd meddwl
  • - Gwasanaethau eraill i oedolion i bobl o dan 65 oed
  • - Strategaeth gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau oedolion

Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd - gan gynnwys data gwariant ar:

  • Blant sy’n derbyn gofal
  • Diogelu gwasanaethau plant a phobl ifanc
  • Canolfannau plant, Dechrau’n Deg a’r Blynyddoedd Cynnar
  • Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
  • Gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid
  • Gwasanaethau erailli i blant a theuluoedd
  • Gwasanaethai i bobl ifanc
  • Gwasanaethau i blant ceiswyr lloches

Mae hyn yn galluogi awdurdodau lleol i ddeall sut mae eu gwariant yn cymharu ag awdurdodau cyfagos neu awdurdodau eraill ac yn eu galluogi i ofyn y cwestiwn am arbedion effeithlonrwydd posibl.

Ar dudalen 4 y dangosfwrdd gallwch adolygu’r data ‘cost y pen’. Mae hyn yn galluogi awdurdodau lleol i gymharu gwariant yn uniongyrchol ar draws gwahanol awdurdodau fesul pen.

Er enghraifft, yn 2018/19 roedd y gwariant y pen ar blant sy'n derbyn gofal yn amrywio o £34,000 i £56,000 y plentyn, ac roedd y gwariant y pen ar oedolion dan 65 oed ag anabledd dysgu yn amrywio o £37,000 i £55,000 yr oedolyn yng Nghymru.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ein dangosfwrdd gwariant awdurdodau lleol ar ofal cymdeithasol, Cysylltwch â ni.