Jump to content
Cynigion ac enwebiadau ar agor nawr ar gyfer Gwobrau 2023
Newyddion

Cynigion ac enwebiadau ar agor nawr ar gyfer Gwobrau 2023

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r cyfnod cynigion ac enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2023 nawr ar agor ac rydyn ni am glywed am y gwaith da sy’n cael ei wneud o fewn gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Os ydych chi’n dîm, grŵp neu sefydliad yn y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu gydweithredol yng Nghymru, dyma eich cyfle i roi cynnig arni, fel eich bod yn gallu rhannu’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni a chael y cyfle i ennill gwobr fawreddog.

Mae gennym hefyd wobrau ar gyfer gweithwyr unigol. Mae’r rhain ar gael i unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy’r gofal a’r cymorth y maent yn ei ddarparu.

Rydyn ni’n gofyn i gydweithwyr, cyflogwyr, pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth neu eu gofalwyr, teulu a ffrindiau i enwebu unrhyw weithwyr yr hoffent weld yn cael eu cydnabod yn y categorïau ar gyfer unigolion.

Mae pum categori ar gyfer y gwobrau - tri ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau, a dau gategori ar gyfer gweithwyr unigol.

Y categorïau ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:

  • Adeiladu dyfodol disglair ar gyfer plant a theuluoedd
  • Gofalu am a gwella lles yn y gweithle
  • Cefnogi gofalwyr di-dâl.

Y categorïau ar gyfer gweithwyr unigol yw:

  • Gwobr arweinyddiaeth effeithiol, ar gyfer arweinwyr rhagorol ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • Gwobr Gofalwn Cymru, i ddathlu gweithwyr gofal sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Meddai Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Bydd Gwobrau 2023 yn rhoi’r cyfle i ni arddangos y gwaith rhagorol sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru o fewn y sectorau gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd dros ben, ond dylem fod yn falch o gyfraniad gwerthfawr pawb yn y sector, sydd wedi cynnig eu cefnogaeth, cadw pobl yn ddiogel a helpu’r rhai yn eu gofal i fyw'r bywydau sy’n bwysig iddyn nhw. Nawr yw’r cyfle i ddathlu’r hyn maen nhw wedi ei gyflawni.”

Ychwanegodd: “Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gweithio ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae neu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru i anfon eu cais atom fel bod eu gwaith da yn cael ei gydnabod.

“Neu, os ydych chi’n gwybod am wasanaeth neu weithiwr da sy’n haeddu cael ei gydnabod, ceisiwch ei annog i roi cynnig arni, neu enwebwch nhw ar gyfer y gwobrau unigol.”

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion ac enwebiadau yw 5pm, prynhawn dydd Mercher 2 Tachwedd 2022.

Mwy o wybodaeth am Wobrau 2023 a lawrlwytho ffurflen gais neu enwebu.

Mwy o wybodaeth

Mwy o wybodaeth a ffurflenni cais y Gwobrau 2023