Jump to content
Cymryd rhan mewn rolau arweinyddiaeth: rydyn ni am glywed gennych chi
Newyddion

Cymryd rhan mewn rolau arweinyddiaeth: rydyn ni am glywed gennych chi

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ydych chi'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol? Hoffwn glywed gennych chi!

Rydyn ni am ddeall pa fath o gyfleoedd a rhaglenni fyddai'n cefnogi mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i ymgymryd â rolau arweinyddiaeth ym maes gofal cymdeithasol.

Mae hyn yn rhan o'n gwaith i gefnogi cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Er mwyn ein helpu i wneud hyn, rydyn ni’n cynnal grwpiau ffocws ar-lein gyda'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus a'r Coleg Staff.

Mae'r grwpiau ffocws yn gyfle i chi rannu’ch profiadau gyda ni, fel y gallwn lunio gwell ffyrdd i'ch cefnogi yn eich gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

Byddwn yn defnyddio’ch adborth i'n helpu i sicrhau bod rhaglenni datblygu arweinyddiaeth yn y dyfodol yn gynaliadwy, yn wrth-hiliol, yn deg ac yn gyfiawn i bob arweinydd gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Os hoffech chi fod yn rhan o'r prosiect ar ôl i'r grwpiau ffocws ddod i ben, bydd cyfleoedd i chi ddod yn rhan o'n grŵp o arbenigwyr.

Sut mae cymryd rhan

I gymryd rhan yn y grwpiau ffocws, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen fer ar-lein hon.

Mae'r sesiynau ar gael i unrhyw un o gefndir ethnig lleiafrifol sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys staff a rheolwyr.

Cewch taleb £45 i wario ar Amazon, i ddiolch i chi am eich amser.

Dyddiadau

Byddwn yn cynnal sesiynau grŵp ffocws ar Microsoft Teams. Gallwch gymryd rhan yn Gymraeg neu Saesneg. Dim ond un sesiwn sydd ei hangen.

  • 2pm i 3.30pm, dydd Mercher 21 Chwefror
  • 10am i 11.30am, dydd Sadwrn 24 Chwefror
  • 2pm i 3.30pm, dydd Gwener 8 Mawrth

Cysylltwch â ni

Os ydych chi am ofyn unrhyw gwestiynau am y prosiect, neu gael gwybod mwy am y grwpiau ffocws, e-bostiwch ipc@brookes.ac.uk.