Mae prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n cynnig cymorth cyn ac ar ôl geni i deuluoedd, canolfan gymunedol a adeiladwyd yn bwrpasol ger Wrecsam, a phrosiect yng ngogledd ddwyrain Cymru sy’n galluogi gofalwyr di-dâl i fanteisio ar ofal seibiant dibynadwy a hyblyg, ymhlith enillwyr Gwobrau 2020.
Mae ein Gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu ymarfer rhagorol mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.
Cyflwynwyd cyfanswm o chwe Gwobr yn gynharach heddiw mewn rhaglen ddathliadol a gyflwynwyd gan y cyflwynydd radio a theledu, Garry Owen, ac ein Prif Weithredwr Sue Evans, a ddarlledwyd yn fyw ar YouTube.
Cafwyd 160 o geisiadau ar gyfer Gwobrau 2020, sef y nifer fwyaf erioed, a chwtogwyd y ceisiadau i 19 o deilyngwyr gan banel o feirniaid arbenigol.
Roedd y beirniaid yn cynnwys aelodau y Bwrdd, cynrychiolwyr o sefydliadau partner ar draws gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, enillwyr blaenorol a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.
Un o’r Gwobrau a gyflwynwyd oedd gwobr Gofalwn Cymru, sef gwobr newydd ar gyfer 2020 sy’n dathlu gweithwyr gofal unigol yng Nghymru sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Dewiswyd yr enillydd, Sandra Stafford, gofalwr maeth o Gonwy, drwy bleidlais gyhoeddus, a phleidleisiodd dros 2,000 o bobl.
Dywedodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi cael y cyfle hwn gyda’r Gwobrau i dalu teyrnged i’r gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, ac i ddathlu cyfraniad y rhai sy’n darparu rhagoriaeth mewn gofal.
“Mae hi mor bwysig ein bod ni’n dathlu rhagoriaeth mewn gofal, nawr yn fwy nag erioed. Yn ystod blwyddyn anhygoel a chaled i bawb ohonom ni, fe ddylen ni fod yn falch ac wedi ein calonogi gan yr esiamplau anhygoel o waith gofal gan y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
“Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn wirioneddol arloesol ac ysbrydoledig – mae cymaint i ymfalchïo ynddo. Mae’r teilyngwyr wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau 2020 oherwydd eu hymroddiad, eu sgiliau a’u gwaith caled, ac mae’n anrhydedd i mi gydnabod a dathlu eu llwyddiant.”
Dywedodd Mick Giannasi CBE, Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru: “Bu’r gwobrau hyn yn ffordd i ddweud diolch ac i ddathlu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant o un diwrnod i’r llall mewn cymunedau ledled Cymru.
“Bu eleni’n annhebyg i unrhyw flwyddyn arall, ac mae’r rhai sy’n gweithio yn y sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant wedi rhagori yn y ffordd maent wedi cefnogi unigolion a chymunedau, drwy helpu i gadw pobl yn ddiogel a’u galluogi i barhau i fyw’r bywydau sydd o bwys iddynt, cystal ag y gallant.
“Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Dylech fod yn falch iawn o’ch cyflawniadau a’r gwaith rhagorol rydych yn ei wneud. Diolch hefyd i bawb sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant am bopeth rydych chi’n ei wneud ar ran pobl yng Nghymru.”
Dywedodd ein Prif Weithredwr, Sue Evans: “Roeddem wrth ein bodd, nid yn unig â’r nifer fwyaf erioed o geisiadau, ond safon ac amrywiaeth y ceisiadau a gawsom ar gyfer Gwobrau 2020.
“Bu eleni’n un o’r blynyddoedd mwyaf heriol erioed i’n beirniaid, gan fod pethau’n dynn iawn rhwng rhai o’r teilyngwyr yn eu categorïau. Mae’r profiad wedi dangos i ni gymaint o enghreifftiau gwych o ofal a chymorth rhagorol sydd gennym yma yng Nghymru, a’r gwahaniaeth gwerthfawr a chadarnhaol mae gweithwyr gofal yn ei wneud i fywydau cymaint o bobl.
“Byddwn yn parhau i ddathlu a rhannu’r enghreifftiau bendigedig hyn o ofal â’r sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn y dyfodol, fel rhan o’n gwaith i gefnogi a gwella ymarfer ledled Cymru.”
Mae’r chwe enillydd fel a ganlyn:
Adeiladu dyfodol disglair gyda phlant a theuluoedd (noddwyd gan UNSAIN) – enillwyd gan Gwasanaeth Mentor Rhieni Navigate @ Scope
Ar gyfer ei brosiect yn cynnig cymorth pwrpasol i rieni sydd â phlentyn ar lwybr tuag at gael diagnosis o anabledd neu nam, neu sydd wedi cael diagnosis o fewn y 12 mis diwethaf. Mae’n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol teilwredig i rieni a gofalwyr, sy’n eu helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plentyn.
Datblygu ac ysbrydoli gweithlu yfory (noddwyd gan Data Cymru) – enillwyd gan Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Ar gyfer ei brosiect ‘Outside In’, sef grŵp ffocws sy’n defnyddio ffyrdd arloesol i addysgu gweithwyr cymdeithasol y dyfodol. Mae ‘Outside In’ yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn dysgu o brofiad ac arbenigedd unigolion sydd wedi derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol ac iechyd.
Gwella gofal a chymorth yn y cartref gyda’n gilydd (noddwyd gan City & Guilds a CBAC) – enillwyd gan NEWCIS
Ar gyfer ei brosiect ‘Pontio’r Bwlch’, sy’n caniatáu i ofalwyr di-dâl fanteisio ar seibiannau hyblyg a dibynadwy. Mae’n caniatáu i ofalwyr gymryd seibiant fel y bo’n addas i’w hanghenion a gall gynorthwyo yn achos angen brys am seibiant.
Ffyrdd arloesol ac ysbrydoledig o weithio (noddwyd gan Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru) – enillwyd gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ar gyfer ei brosiect ‘Meddwl am y Baban’, sy’n cynnig ymyrraeth gynnar effeithiol i deuluoedd mewn ymdrech i wella canlyniadau yn y tymor byr, canolig a hir. Mae’r prosiect yn rhoi cymorth cyn ac ar ôl geni i deuluoedd, gyda’r nod o ostwng nifer y plant sy’n derbyn gofal.
Gwrando ar, a gweithio â phobl sy’n byw gyda dementia (noddwyd gan Blake Morgan) – enillwyd gan Y Rainbow Centre
Ar gyfer ei brosiect canolfan ddydd, sef hyb cymunedol pwrpasol sy’n cynnig amrywiaeth o ymyriadau, fel grwpiau ymarfer corff a diddordebau cymdeithasol, allgymorth cymunedol a chyfeillio, ynghyd â chludiant cymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli. Nod y prosiect yw hybu heneiddio cadarnhaol a rhoi grym i bobl hŷn fod mor annibynnol â phosibl ac ailgysylltu â’r gymuned leol.
Gwobr Gofalwn Cymru (noddwyd gan Ymgyrch Gofalwn Cymru) – enillwyd gan Sandra Stafford, gofalwr maeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Enwebwyd gan weithwyr cymdeithasol Danielle Dally a Sarah Vater
Mae “gofalwyr maeth eithriadol” Sandra a'i gŵr Mark wedi bod yn ofalwyr maeth er 2001, yn dangos ymrwymiad ac angerdd ac yn darparu ansawdd uchel o ofal. Rhoddwyd un plentyn maeth gyda’r teulu ar ôl iddi gael ei rhyddhau o’r ysbyty. Mae Sandra, fel y prif ofalwr, yn wynebu heriau bob dydd, ond cafodd y plentyn ei chroesawu gyda breichiau agored a rhoddwyd cariad, sefydlogrwydd a thosturi iddi, a fyddai’n ei galluogi i wneud cynnydd sylweddol wrth adfer. Darparwyd cartref diogel a chariadus i’r plentyn hwn, mae hi’n cael ei derbyn ac yn cael ail gyfle am fywyd ac i gyrraedd ei llawn botensial.
Am fwy o wybodaeth am yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol.
Beth mae’n noddwyr yn ei ddweud:
Dywedodd Graham Miles, Partner yn Blake Morgan, noddwyr y categori Gwrando i a gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia: “Rydym wedi noddi’r Gwobrau dros nifer o flynyddoedd fel rhan o’n rhaglen cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, sy’n rhan annatod o’n hathroniaeth busnes sydd â’r nod o wneud gwahaniaeth i’n cleientiaid, ein pobl a’n cymunedau.
“Mae’r nawdd eleni yn arbennig o berthnasol, o ystyried y flwyddyn anghyffredin a’r heriau anodd iawn a wynebwyd gan y rhai sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae mor bwysig cydnabod a dathlu eu hymdrechion rhyfeddol, o ystyried y rhan hollbwysig maent wedi’i chwarae, ac maent yn parhau i’w chwarae, o ran cadw ein hanwyliaid a’n cymunedau’n ddiogel. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda dementia. Felly, rydym wrth ein bodd yn gwneud rhyw fath o gyfraniad i helpu i godi proffil y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud.”
Dywedodd City & Guilds a CBAC, noddwyr y categori Gwella gofal a chymorth yn y cartref gyda’n gilydd: “Fel unig ddarparwr y gyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru, mae City & Guilds/CBAC yn falch o noddi gwobrau blynyddol ‘Gwobrau 2020’.
“Lluniwyd ein cymwysterau newydd i wella safonau a hybu rhagoriaeth yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector gofal plant. Fel noddwyr y categori ‘Gwella gofal a chymorth yn y cartref gyda’n gilydd’, edrychwn ymlaen at gydnabod a gwobrwyo unigolion sydd wedi cydweithio i gefnogi llesiant pobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain.
“Mae City & Guilds/CBAC yn credu’n gryf mewn grymuso pobl drwy roi cyfleoedd iddynt at y dyfodol, ac yn gwerthfawrogi ‘Gwobrau 2020’ fel cyfle cyhoeddus i ddathlu gwaith rhagorol unigolion, sefydliadau, grwpiau a thimau sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.”
Dywedodd Data Cymru, noddwyr y categori Datblygu ac ysbrydoli gweithlu yfory: “Mae’n fraint gallu cefnogi Gwobrau 2020, i ddathlu gwaith caled a chyflawniadau’r rhai sydd ar y rheng flaen o ran darparu gofal cymdeithasol, darpariaeth y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
“Ar ôl darparu cymorth casglu a dadansoddi data i Gofal Cymdeithasol Cymru dros flynyddoedd lawer i’w helpu i ddeall a chefnogi’r gweithlu’n well, rydym yn cydnabod y rhan hanfodol y mae’r gweithlu’n ei chwarae o ran darparu gwasanaethau rhagorol. Felly, mae’n bleser o’r mwyaf gennym noddi’r wobr sy’n cydnabod y rhai sy’n datblygu ac yn ysbrydoli gweithlu yfory.”