Jump to content
Cofrestr dros dro yn cau
Newyddion

Cofrestr dros dro yn cau

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Caeodd ein Cofrestr dros dro o Weithwyr Cymdeithasol ar 30 Medi.

Yn 2020, gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni sefydlu Cofrestr dros dro newydd o weithwyr cymdeithasol. Ein nod oedd sicrhau bod mwy o weithwyr cymdeithasol ar gael yn ystod y pandemig, a chaniatáu i weithwyr cymdeithasol a adawodd gofal cymdeithasol rhwng 2017 a 2020 i ddychwelyd i’r proffesiwn.

Cafodd y Gofrestr hon ei chreu o dan ddeddfwriaeth a basiwyd gan Senedd y DU ac roedd ganddo reolau gwahanol i’r Gofrestr parhaol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i ni nad oes angen y Gofrestr dros dro bellach, ac maent wedi gofyn i ni ei chau ar 30 Medi.

Rydym wedi hysbysu’r nifer fach o’r gweithwyr cymdeithasol ar y Gofrestr dros dro ei fod yn cau ac wedi cynnig cymorth iddynt drosglwyddo i’r Gofrestr parhaol.