Jump to content
Ceisiadau ar agor ar gyfer Gwobrau 2022
Newyddion

Ceisiadau ar agor ar gyfer Gwobrau 2022

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydym bellach yn croesawu ceisiadau ar gyfer Gwobrau 2022. Dyma’r gwobrau sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae’r gwobrau yn gyfle i chi fel tîm, grŵp neu sefydliad yn y sector cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu gydweithredol yng Nghymru, i rannu eich llwyddiant gyda chydweithwyr ledled Cymru.

Mae gennym hefyd wobrau i weithwyr gofal unigol – gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg a gwobr Gofalwn Cymru. Mae'r gwobrau yn agored i unrhyw weithiwr cyflogedig neu wirfoddolwr ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy'r gofal a'r cymorth y maent yn eu darparu.

Rydym yn gofyn i gydweithwyr, cyflogwyr, pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth neu eu gofalwyr, eu teulu a'u ffrindiau i enwebu unrhyw weithwyr gofal yr hoffent eu gweld yn cael eu cydnabod gan y gwobrau hyn.

Mae Gwobrau 2022 yn cynnwys saith categori – mae pum categori ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau, a dau gategori ar gyfer gweithwyr gofal unigol.

Y categorïau ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:

  • Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
  • Recriwtio a chadw staff yn effeithiol
  • Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu
  • Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Y categorïau ar gyfer gweithwyr gofal unigol yw:

  • Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg
  • Gwobr Gofalwn Cymru.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: "Yn 2020, roeddem wrth ein bodd nid yn unig gan y nifer uchaf erioed, ond hefyd gyda safon ac amrywiaeth y ceisiadau a gawsom ar gyfer y Gwobrau.

"Ers hynny, mae'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae'r sectorau gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yn ei wneud i fywydau pobl wedi disgleirio’n fwy nag erioed. Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae ein gweithwyr gofal wedi bwrw iddi o dan amgylchiadau heriol ac anodd iawn ac wedi dangos pa mor hanfodol a gwerthfawr ydynt.

"Bydd Gwobrau 2022 yn gyfle i ni ymfalchïo yn y gwaith rhagorol sydd wedi bod ar droed ledled Cymru, ac edrychwn ymlaen at gydnabod, dathlu a rhannu'r gwaith hwnnw.

"Rwy’n annog pawb sy'n gweithio ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae neu'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru i gyflwyno eu cais fel y gellir cydnabod eu gwaith da.

"Yn yr un modd, os gwyddoch chi am wasanaeth neu ofal gwych sy'n haeddu cael ei gydnabod, anogwch nhw i ymgeisio am y Gwobrau neu eu henwebu ar gyfer gwobr unigol."

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac enwebiadau yw 5 Tachwedd 2021, am 5pm.

Dysgwch fwy am y Gwobrau 2022 a sut i ymgeisio neu enwebu gweithiwr gofal