Jump to content
Cefnogaeth am ddim i ddatblygu eich syniadau i wella recriwtio a chadw
Newyddion

Cefnogaeth am ddim i ddatblygu eich syniadau i wella recriwtio a chadw

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae ein gwasanaeth anogaeth arloesedd bellach ar agor am ail rownd o geisiadau.

Fe wnaethon ni lansio'r gwasanaeth am ddim ym mis Medi i’ch helpu i gael y gorau o’ch syniadau i wella gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Y tro hwn mae’r ffocws ar gefnogi ymdrechion i wella recriwtio a chadw, felly anfonwch eich syniadau a byddwn ni’n eich helpu i roi’r syniadau hynny ar waith.

Mae ein tîm o anogwyr arloesedd yma i'ch cefnogi chi i brofi'ch syniadau'n ddiogel a'u helpu i gyrraedd eu botensial llawn.

Mae ein proses mynegi diddordeb bellach ar agor ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar recriwtio a chadw.

Defnyddiwch ein ffurflen gais recriwtio a chadw os yw eich syniad yn perthyn i'r thema hon.

Byddwn ni’n dal i ystyried prosiectau y tu hwnt i recriwtio a chadw yn ystod y ffenestr ymgeisio hwn, felly gwnewch gais trwy ein ffurflen gais cyffredinol os oes gennych syniad gwych i wella unrhyw agwedd o ofal cymdeithasol.

Os nad ydych chi'n siŵr os yw eich prosiect yn addas, gall ein anogwyr eich helpu i benderfynu a ydych chi am wneud cais. Cysylltwch â nhw drwy anfon e-bost at anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru.

Pam ddylech chi wneud cais?

  • Mae ein gwasanaeth anogaeth arloesedd ar gael am ddim ac i unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Byddwch chi'n cael cymorth ar-lein gan ein tîm o anogwyr arloesedd, sy’n arbenigwyr ar gyflawni newid.
  • Byddwn ni'n eich helpu chi i ddatrys problemau a magu hyder i barhau i ddefnyddio eich ffordd newydd o weithio unwaith y bydd yr anogaeth wedi dod i ben.
  • Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y gwasanaeth anogaeth yn gymwys i ymuno â’n ‘clwb anogaeth’ – rhwydwaith o eraill sydd wedi bod drwy’r un broses.

Sesiynau anogaeth yn 'hynod fuddiol'

Dywedodd Kate Aubrey, Rheolwr Arweiniol ar gyfer Ymarfer, Gwasanaethau Plant Rhondda Cynon Taf: Mae’r sesiynau anogaeth wedi bod yn hynod fuddiol i mi.

"Maen nhw wedi fy helpu i feddwl am y broses o newid mewn sefydliadau - beth all helpu a beth all rwystro.

"Mae’r sesiynau hefyd wedi bod yn gyfle i fyfyrio gyda rhywun meddylgar, calonogol a gwybodus.”

Angen mwy o wybodaeth?

Ewch i'n tudalen gwasanaeth anogaeth arloesedd neu e-bostiwch anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech chi wybod mwy.