Jump to content
Cau’r gofrestr dros dro o weithwyr cymdeithasol i ymgeiswyr
Newyddion

Cau’r gofrestr dros dro o weithwyr cymdeithasol i ymgeiswyr

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar 26 Mawrth 2020, agorom gofrestr dros dro o weithwyr cymdeithasol er mwyn caniatáu i weithwyr cymdeithasol a oedd wedi gadael y Gofrestr yn ddiweddar ddod yn ôl i ymarfer yn ystod y pandemig.

Roeddem yn gallu gwneud hyn oherwydd Deddf y Coronafeirws 2020 a chyflwyno Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru Brys ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol) 2020.

Roedd y mesurau eithriadol yn berthnasol am ddwy flynedd yn unig ac maent i fod i ddod i ben ar 25 Mawrth 2022.

Ar ôl 25 Mawrth, byddwn yn cysylltu â phawb sydd ar y gofrestr dros dro i ofyn a ydynt am barhau i gael eu cofrestru.

Bydd pobl sydd am barhau i gofrestru yn cael arweiniad ynghylch sut i symud i’r brif Gofrestr a byddant yn aros ar y gofrestr dros dro hyd nes caniateir eu cofrestriad llawn.

Os nad oes angen i bobl ar y gofrestr dros dro gael eu cofrestru neu os na allwn gysylltu â nhw, byddant yn cael eu dileu.

Ni fyddwn yn ychwanegu pobl newydd at y gofrestr dros dro ar ôl 25 Mawrth. Felly, os bydd angen i rywun gofrestru gyda ni o’r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd rhaid iddynt wneud cais i’r brif Gofrestr yn lle hynny.

Bydd y gofrestr dros dro yn aros ar agor am y tro, ond caiff ei chau maes o law.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â’n tîm cofrestru ar ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru.