Jump to content
Bwrsariaethau i gynyddu ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol ail a thrydedd flwyddyn
Newyddion

Bwrsariaethau i gynyddu ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol ail a thrydedd flwyddyn

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i helpu myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn cwblhau eu cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig gwaith cymdeithasol ail a thrydedd flwyddyn gyda chostau byw cynyddol.

Mae’r cyllid ychwanegol yn golygu y bydd myfyrwyr israddedig amser llawn a ddechreuodd eu hastudiaethau gradd gwaith cymdeithasol yn ystod blwyddyn academaidd 2021 i 2022 neu’n gynharach nawr yn cael £3,750 y flwyddyn, am bob blwyddyn arall o’u hastudiaethau.

Bydd myfyrwyr ôl-raddedig a ddechreuodd eu hastudiaethau meistr mewn gwaith cymdeithasol yn y flwyddyn academaidd 2021 i 2022 neu’n gynharach nawr yn cael £12,715 ar gyfer y flwyddyn sy’n weddill o’u hastudiaethau.

Cael gwybod mwy am y bwrsarïau sydd ar gael i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol