Jump to content
Beth yw eich barn chi am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru?
Newyddion

Beth yw eich barn chi am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru?

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi bod yn siarad â phobl yn y sector gofal cymdeithasol am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ac mae’r adborth a gawsom yn awgrymu nad oes digon o gyd-destun gofal cymdeithasol o fewn adnoddau dysgu.

Rydyn ni am helpu i wella hyn, drwy nodi enghreifftiau o adnoddau presennol a datblygu adnoddau dwyieithog newydd. Fel rhan o hyn, hoffen ni:

  • ddeall mwy am yr adnoddau a ddefnyddir i addysgu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
  • glywed eich barn am beth ddylai’r adnoddau newydd gynnwys a sut y dylen nhw edrych.

Rydyn ni wedi comisiynu Strategic Research and Insight (SRI), asiantaeth ymchwil annibynnol yng Nghaerdydd, i siarad â darparwyr dysgu a chyflogwyr gofal cymdeithasol fel y gallwch chi rannu eich barn.

Bydd SRI yn cynnal cyfweliadau ar-lein trwy gydol Ionawr a Chwefror. Bydd y cyfweliadau yn para 30 i 45 munud a gellir eu cynnal yn Gymraeg neu Saesneg. Unwaith y bydd yr holl gyfweliadau wedi'u cwblhau, bydd SRI hefyd yn cynnal dau grŵp ffocws gyda dysgwyr.

Byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn i'r ymchwil hwn. Bydd eich adborth yn helpu i wella adnoddau dysgu, i gefnogi cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â ni drwy e-bostio kate.dibble@gofalcymdeithasol.cymru.