Ynghyd ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydym yn lansio dau arolwg i helpu i lywio ein blaenoriaethau ymchwil ar gyfer gofal a chymorth i deuluoedd a phlant, ac rydym am i chi rannu eich profiadau, eich barn a’ch pryderon mwyaf.
Mae gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn wasanaethau awdurdod lleol, fel gweithwyr cymdeithasol, sy'n gweithio gyda theuluoedd i'w helpu drwy broblemau. Maent hefyd yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau fel Action for Children a Barnardo’s, gwasanaethau iechyd meddwl, cymorth cyffuriau ac alcohol, gwasanaethau digartrefedd, gwasanaethau ceiswyr lloches a ffoaduriaid, a mathau eraill o gymorth gan grwpiau cymunedol, teuluoedd a ffrindiau.
Gan weithio gyda’r James Lind Alliance, ein nod yw datblygu agenda ymchwil gofal cymdeithasol sy’n edrych ar sut y gall dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau helpu i ddatrys rhai o’r materion pwysicaf.
Mae dulliau sy’n seiliedig ar gryfder yn canolbwyntio ar adeiladu cryfder a gwydnwch pobl i’w helpu i fagu hyder y gall pethau newid a gwella yn eu bywydau.
Sut i gymryd rhan
Mae'r ail arolwg bellach yn fyw a gallwch gymryd rhan yma.
Dyma gyfle i chi ddewis y pynciau sydd bwysicaf yn eich barn chi.
Dylech gymryd rhan yn yr arolwg hwn os:
- rydych chi neu rywun yn eich teulu wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth i deuluoedd
- rydych chi'n ymarferydd gofal cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau cymorth i deuluoedd a phlant yng Nghymru.
Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg hwn hyd yn oed os na wnaethoch chi gymryd rhan yn yr arolwg cyntaf.
Pam cymryd rhan?
Gall eich gwybodaeth a’ch barn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd yng Nghymru a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a gânt. Rydym eisiau clywed gan ystod eang o bobl. Mae profiadau bywyd go iawn a safbwyntiau teuluoedd ac ymarferwyr gofal cymdeithasol wrth galon y prosiect hwn.
Erbyn diwedd y broses, bydd gennym restr o'r 10 uchaf o bynciau blaenoriaeth y mae angen eu hymchwilio ymhellach. Bydd canlyniadau’r prosiect yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan yn hydref 2022.