Mae rheolwr cartref gofal i oedolion o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei dileu o’r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i adolygiad gan Ofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd.
Rhoddwyd amodau ar gofrestriad Melanie Swindley am 12 mis gan banel addasrwydd i ymarferol Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Chwefror 2021.
Yn dilyn gwrandawiad yr wythnos ddiwethaf i adolygu cynnydd Ms Swindley o ran bodloni’r amodau a osodwyd ar ei chofrestriad, canfu’r panel fod addasrwydd Ms Swindley i ymarfer yn parhau i fod wedi’i amharu ar hyn o bryd.
Daeth y panel i’r casgliad er bod Ms Swindley wedi ceisio bodloni rhai o’r amodau a osodwyd ar ei chofrestriad, nad oedd wedi’u bodloni’n llawn.
Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Mae absenoldeb Ms Swindley heddiw yn golygu, er bod y panel a eisteddodd ym mis Chwefror 2021 yn ymddangos fel petai’n credu bod modd i’r ymddygiad a arweiniodd at ei chyhuddiad gael ei unioni, ni allwn ddod i’r casgliad ei fod wedi cael ei unioni a’i fod yn annhebygol iawn o gael ei ailadrodd.”
Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Nid yw Ms Swindley wedi ymgysylltu a mynd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon a godwyd gan y panel ym mis Chwefror 2021. Mae hyn yn ein harwain at y casgliad anorfod, yn ein barn ni, bod ei haddasrwydd i ymarfer yn parhau i fod wedi’i amharu ar hyn o bryd.”
Felly, penderfynodd y panel ddileu Ms Swindley o’r Gofrestr, gan ddweud: “Ar sail y deunydd sydd o’n blaen, sy’n cynnwys y diffyg tystiolaeth o ddealltwriaeth, diffyg camau unioni (ac, felly, perygl go iawn o ailadrodd), nid ydym o’r farn y byddai unrhyw benderfyniad llai yn diogelu’r cyhoedd.
“Ystyriwn hefyd, oherwydd diffyg ymgysylltiad Ms Swindley â’r Gorchymyn Cofrestru Amodol, ac absenoldeb unrhyw gydweithrediad â’r broses adolygu hon, y byddai ffydd y cyhoedd mewn rheoleiddio gofal cymdeithasol yn cael ei danseilio petai Ms Swindley yn aros ar y Gofrestr.”
Nid oedd Ms Swindley yn bresennol yn y gwrandawiad adolygu undydd, a gynhaliwyd trwy Zoom yr wythnos ddiwethaf.