Skip to main content
Hygyrchedd y safle

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19
Cefnogi gofal diwedd oes mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn ystod Covid-19

Mae lleoliadau gofal cymdeithasol yn darparu gofal diwedd oes a chymorth mewn profedigaeth a hynny mewn amgylchiadau sydd yn aml yn anodd. Mae eu gwaith yn fwy cymhleth o lawer nawr oherwydd y cyfyngiadau a’r heriau sy’n codi o ganlyniad i Covid-19. Yn yr adnoddau isod, rydym yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol ar agweddau ar ddarparu gofal diwedd oes ac ar gynnig cymorth mewn profedigaeth. Dewiswyd yr adnoddau hyn gan Gofal Cymdeithasol Cymru gyda chymorth pobl o bob rhan o’r DU*.

Cynnig cysur i rywun sy’n marw heb ei berthnasau neu ffrindiau agosaf

Bydd pob un ohonom yn ymateb yn wahanol wrth ddod i ddiwedd ein hoes. Felly y mae yn achos y bobl rydych chi’n gofalu amdanynt. Bydd rhai ohonynt yn deall beth sy’n digwydd, bydd rhai heb ddeall, bydd rhai pobl yn teimlo ofn, bydd eraill yn cael ymdeimlad o heddwch. Siaradwch â’r person rydych yn gofalu amdano neu’r bobl sy’n ei adnabod yn dda, i gael gwybod beth sydd fwyaf pwysig i’r person. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu cysur yn eiliadau olaf y person, gan gydnabod y bywyd a gafodd a beth sy’n gwneud y person yr hyn ydyw. Rydych chi’n gwneud un o’r pethau pwysicaf a allwch chi dros fod dynol arall.

Cysylltiad

Beth sy’n ei helpu i deimlo cysylltiad â’r bobl y mae’n eu caru?

  • A oes lluniau, cerddoriaeth, persawr cyfarwydd, gwrthrych neu rywbeth i gofio y gall y person ei ddal i’w atgoffa am ei anwyliaid?
  • A yw’n gallu cyfathrebu â ffrindiau neu aelodau o’r teulu dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo?
  • A oes ffordd i gofnodi atgofion neu anfon negeseuon at y person, recordiad sain efallai neu lythyr y gallwch ei ddarllen yn uchel?
  • Meddyliwch am ffyrdd i sicrhau bod anwyliaid y person yn gwybod beth rydych yn ei wneud i helpu’r person sy’n marw i aros mewn cysylltiad â nhw. Bydd hyn yn cynnig cysur ac ymdeimlad o gysylltiad.

Cysur

Beth sy’n gwneud i’r person deimlo ei fod yn ddiogel ac yn cael gofal?

  • A yw ei gorff yn gyfforddus? A yw’n lân? A yw ei wallt wedi cael ei frwsio? A yw ei urddas yn cael ei ddiogelu? Os ydych yn meddwl ei fod mewn poen neu anghysur, cysylltwch â’i feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol penodol
  • A allwch chwarae cerddoriaeth gyfarwydd neu ddarparu ei hoff fwydydd neu ddanteithion?
  • A oes ffyrdd i sicrhau cysur corfforol drwy afael yn ei law, darparu hoff flanced, clustog neu ddilledyn?
  • A oes unrhyw bethau crefyddol neu ysbrydol sy’n dod â chysur i’r person e.e. hoff ddarlleniad neu weddi, emyn neu alwad fideo gan ei arweinydd ffydd/ysbrydol?
  • Sut y gallwch gadw’r amgylchedd yn dawel drwy osgoi sŵn uchel a golau tanbaid, gan sicrhau bod yr holl ofalwyr yn teimlo’n hyderus wrth ddarparu cymorth hyd yn oed os ydynt mewn sefyllfa anghyfarwydd?
  • A oes pethau y mae’n mwynhau eu gwneud fel arfer fel gwrando ar gerddoriaeth, gwylio’r teledu neu arddio – a oes ffyrdd creadigol i chi ei helpu i wneud y gweithgareddau hyn yn y sefyllfa bresennol? A allwch ddod â blodau o’r ardd i’w rhoi yn ei ystafell? Neu eistedd gyda’r person a gwrando ar ei hoff gerddoriaeth? Neu ddarllen un o’i hoff lyfrau iddo?

Cyfathrebu

Beth sy’n helpu’r person a’i anwyliaid i ddeall y pethau sy’n digwydd a’r dewisiadau y gallent orfod eu gwneud?

  • Meddyliwch am beth mae’r person yn ei wybod neu ei ddeall yn barod
  • Meddyliwch am sefyllfa’r person. Efallai ei fod yn gwybod beth sydd ei eisiau arno: os felly, parchwch ei benderfyniadau. Neu efallai ei fod yn ddryslyd neu’n ei chael yn anodd cofio pethau. Efallai y bydd yn parhau’n ofnus hyd yn oed os nad yw’n gallu mynegi ei ofnau neu ddymuniadau. Arhoswch gyda’r person a chynigiwch gysur gan ddefnyddio rhai o’r syniadau sydd wedi’u hawgrymu.
  • Meddyliwch am adlewyrchu’r iaith a’r geiriau y mae’r person yn eu defnyddio wrth sôn am ei iechyd: mae hyn yn golygu defnyddio’r un math o eiriau ag y mae’r person yn eu defnyddio
  • Meddyliwch am ddefnyddio geiriau clir a diamwys i osgoi dryswch hyd yn oed os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio’r geiriau hynny, er enghraifft, marw
  • Meddyliwch am adael iddo fod yn ddistaw neu grio os yw newydd glywed newyddion drwg neu os yw’n synhwyro bod ei fywyd yn dod i ben – y cwbl sydd ei angen weithiau yw bod yno gyda’r person
  • Meddyliwch am bwy y gallwch ofyn cwestiynau iddynt os bydd y person yn gofyn cwestiynau a chithau’n teimlo na allwch eu hateb. Fel tîm, ewch ati i wneud rhestr o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gysylltiedig â’i ofal fel y gallwch gysylltu â nhw os bydd angen cael cyngor.

Dyluniwyd siart cyfathrebu Critical Care Covid-19 Communication Chart yn benodol i gefnogi cyfathrebu yn ystod pandemig Covid-19 ar gael i'w lawrlwytho am ddim mewn sawl iaith.

Cynnig gofal tosturiol a chyfathrebu’n effeithiol wrth wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

Un o’r heriau mwyaf wrth gynorthwyo pobl sy’n marw â Covid-19 yw gorfod gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE).

Bydd nifer mawr o bobl yn ei chael yn anodd eich clywed neu’ch deall os bydd eich ceg wedi’i chuddio oddi wrthynt pan fyddwch yn gwisgo masgiau a feisorau. Dyma rai syniadau i’ch helpu i sicrhau eich bod yn cyfathrebu’n glir a’ch bod yn gallu darparu gofal tosturiol wrth wisgo PPE.

Cyfathrebu’n glir

  • Gofynnwch a oes rhywbeth y gallwch ei wneud er mwyn ei gwneud yn haws i’r person eich clywed
  • Holwch a oes cymorth clyw ganddo (ac a yw’n gweithio)
  • A yw’r person yn ei chael yn haws clywed drwy un glust?
  • Gofalwch fod lefel y sŵn cefndir mor isel â phosibl
  • Siaradwch yn glir ac yn araf – mae’n bosibl na fydd siarad yn uwch yn ddigon ar ei ben ei hun
  • Gofalwch am eich llais – ceisiwch beidio â gweiddi a chymerwch saib weithiau, yfwch ddigon o ddŵr
  • Siaradwch mewn brawddegau byr a gwiriwch fod y person yn eu deall
  • Os bydd angen, defnyddiwch bad ysgrifennu, cyfrifiadur llechen, bwrdd gwyn neu fflachgardiau i’ch helpu.

Cyfathrebu’n ofalgar

Byddwn yn dangos bod gofalu am y person yn bwysig i ni ac yn helpu’r person i ymddiried ynom drwy’r edrychiad ar ein hwyneb, tôn ein llais a’r geiriau a ddefnyddiwn yn ogystal ag iaith y corff. Gall hyn fod yn fwy cyfyngedig wrth wisgo PPE, a gall rhai pobl fynd yn fwy pryderus.

  • Eisteddwch ar yr un lefel â’r person lle bynnag y bo modd
  • Defnyddiwch eich llygaid i greu cysylltiad a dangos eich gwên a’ch pryder
  • Meddyliwch am dôn y llais a ddefnyddiwch – ceisiwch dawelu meddwl y person ac aros yn ddigyffro
  • Ystyriwch ddod â llun ohonoch chi’ch hun heb fasg i’w helpu i ddod i’ch adnabod neu roi’r llun yn sownd yn eich gwisg swyddogol. Gofalwch fod eich llun a’ch enw yn ddigon mawr a’u bod wedi’u gosod lle mae’n hawdd i’r person eu gweld
  • Defnyddiwch arwyddion llaw i danlinellu’r pethau rydych yn eu dweud.

Beth allaf ei ddweud?

  • Byddwch yn naturiol – siaradwch am bethau pob dydd, peidiwch â gadael i’r masg wneud i chi anghofio’r sgiliau cyfathrebu gwych sydd gennych yn barod!
  • Dylech gydnabod bod y masg yn gwneud i sgwrsio fod braidd yn chwithig, a’ch bod chi’n deall sut y gallai’r person deimlo am hynny. Holwch y person i weld sut mae’n teimlo am hyn.
  • Meddyliwch am yr emosiynau neu ffyrdd o ymateb y gallech eu dangos yn eich wyneb a cheisiwch gyfleu’r rhain mewn geiriau “Rwy’n falch eich bod chi wedi dweud hynny”, “Rwy’n teimlo’n drist bod hyn wedi digwydd i chi”
  • Dangoswch i’r person eich bod yn gwrando arno. Byddwch yn amyneddgar, gwnewch grynodeb o beth rydych yn ei glywed a gwiriwch eich bod wedi’i ddeall
  • Peidiwch ag ofni aros yn ddistaw gyda’r person, peidiwch â rhuthro i ffwrdd wedi i chi orffen siarad – weithiau mae bod yn bresennol gyda rhywun yn gallu dangos yn fwy na dim arall eich bod yn gofalu amdano.

Siarad â phlant am Gyfarpar Diogelu Personol (PPE)

Mae PPE yn gallu edrych yn arswydus i blant ac os byddant yn gweld staff yn gwisgo cyfarpar diogelu i’w diogelu nhw neu rywun annwyl, gall hyn beri i’r plant fod yn ofnus neu bryderus. Gallant hyd yn oed ofyn cwestiynau am beth maent yn ei weld ar deledu. Dyma ychydig o gyngor ar sut i egluro:

“Pan fyddwn ni’n gweithio gyda rhywbeth sy’n gallu ein brifo neu fod yn beryglus i ni, mae angen i bobl wisgo eitemau i’w diogelu fel y gallan nhw ymladd yn ei erbyn. Bydd diffoddwyr tân yn gwisgo feisorau i ddiogelu eu hwynebau rhag y tân; bydd plismyn yn gwisgo bres corff i ddiogelu eu cyrff; bydd deintyddion yn gwisgo gogls i atal dŵr wedi’i chwistrellu rhag mynd i’w llygaid; bydd arwyr fel Superman yn gwisgo mantell i’w cysgodi! Mae angen i nyrsys a meddygon aros yn ddiogel rhag y coronafeirws er mwyn gallu ymladd yn ei erbyn, felly weithiau mae angen iddyn nhw wisgo masgiau, gogls a ffedogau – dyma’u mantell nhw!”

Cael sgyrsiau anodd â rhywun sy’n ddifrifol wael neu’n marw

Mae’n ddigon posibl mai chi fydd y gofalwr y mae rhywun yn dewis ymddiried ynddo i ofyn cwestiynau anodd. Gall hon fod yn sefyllfa anodd. Weithiau byddwch yn teimlo mai rhywun arall a ddylai ateb y cwestiynau, ond bod y person wedi’ch dewis chi am reswm penodol. Y rheswm am hyn fel arfer yw ei fod yn ymddiried ynoch neu ei fod wedi sefydlu perthynas â chi ac felly mai chi yw’r ‘person gorau’ i sgwrsio ag ef hyd yn oed os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.

Gellir cael adegau, oherwydd amgylchiadau personol er enghraifft, pan fyddwch yn gwybod nad ydych yn y lle iawn, yn emosiynol, i gynnal sgwrs anodd ac mae’n bwysig cydnabod hyn:

“Rwy’n ei deimlo’n beth mawr eich bod chi’n ymddiried ynof i ofyn y cwestiwn anodd hwn, rwy’n gwybod bod hyn yn siŵr o fod yn anodd. Dydw i ddim yn credu mai fi yw’r un iawn ar y funud i gael y sgwrs hon ond rwy’n gallu gweld ei bod yn bwysig i chi – a oes rhywun arall fyddech chi’n hapus siarad ag ef?”

Enghreifftiau o gwestiynau anodd yw ‘ydw i’n mynd i farw?’ ‘fydda i’n gwella?’ ‘fydd rhywun gyda mi?’ neu ‘alla i fynd i’r ysbyty i gael triniaeth?’. Peidiwch ag anwybyddu’r sgyrsiau pwysig hyn. Gallech deimlo ei bod yn anodd delio â nhw ond meddyliwch beth fyddai’ch dymuniadau chi os mai chi oedd yn gofyn y cwestiwn. Peidiwch â brwsio’r cwestiynau hyn ymaith drwy wneud sylwadau fel ‘does dim angen i chi boeni am hynny’ neu gynnig cysur di-sail ‘wrth gwrs y byddwch chi’n gwella’. Mae pobl yn ceisio cysur a thosturi a gallwch roi hyn heb wneud addewidion gwag neu roi atebion i gwestiynau sydd y tu allan i gwmpas ein hymarfer.

Ceisiwch gael ychydig o eiliadau i ymdawelu – drwy gyfri i 3 efallai neu ddweud rhywbeth fel ‘mae hwnnw’n swnio’n gwestiwn pwysig, gadewch i mi fynd i nôl cadair fel y gallwn ni eistedd a siarad amdano’. Mae hyd yn oed yr ychydig eiliadau y mae’n ei gymryd i nôl cadair yn gallu rhoi cyfle i chi anadlu’n ddwfn a meddwl am sut y byddwch yn ateb cwestiwn anodd.

Yn aml, bydd ateb cwestiwn anodd drwy ofyn cwestiwn arall yn helpu i ddangos beth yw achos y pryder. Er enghraifft, gellid ateb y cwestiwn ‘ydw i’n mynd i farw?’ drwy ddweud ‘mae hwnnw’n gwestiwn mawr, beth sydd wedi gwneud i chi ofyn hynny?”.

Yn aml, nid chwilio am ateb y bydd rhywun wrth ofyn cwestiynau anodd fel hyn: maent yn codi’n aml o’r dymuniad i siarad am bryderon, felly dylech wrando’n fwy na siarad a gadael ambell saib i adael i’r person wybod bod hyn yn anodd. Os yw’n bosibl ac yn cael ei ganiatáu, defnyddiwch ychydig o gyswllt corfforol drwy ddal llaw y person neu bwyso’ch llaw ar ei fraich. Yn bwysicaf oll, cadwch gyswllt llygad da – mae hyn yn neilltuol o bwysig os ydych yn gwisgo mwgwd.

Os oes ar bobl angen gwybodaeth neu gysur penodol, er enghraifft, am feddyginiaeth neu leddfu symptomau, dylech ddweud yn hyderus na allwch ateb y cwestiwn hwnnw ond y byddwch yn dod o hyd i rywun sy’n gallu ei ateb. Gofalwch eich bod yn cadw at hynny.

Cynnig cysur i berthnasau nad ydynt yn gallu bod gyda’u hanwyliaid a rhannu newyddion trist â nhw

Bydd teuluoedd a ffrindiau’n gofidio nad oeddent yn gallu bod gyda’u perthnasau pan oeddent yn wael neu pan oeddent wedi marw. Treuliwch ddigon o amser ar sgyrsiau o’r fath a meddwl beth fyddai’n eich helpu chi os oeddech chi yn eu lle nhw.

Bod yn barod

  • Cymerwch amser i baratoi bob tro. Mae angen i chi fod yn y lle gorau posibl yn emosiynol. Efallai na fyddwch wedi cael ond ychydig bach o amser i wneud hyn ond gellir ei wneud yn dda er hynny. Meddyliwch am beth fyddech chi am ei gael yn yr un sefyllfa ac am y ffordd orau i ddangos caredigrwydd a thosturi.
  • Gofalwch fod gennych le distaw i wneud yr alwad. Ceisiwch sicrhau na fydd ffonau eraill yn canu ac yn tarfu arnoch chi ac na fydd pobl yn mynd i mewn ac allan o’r ystafell
  • Gofalwch eich bod yn gwybod enwau’r bobl berthnasol – y person rydych yn siarad amdano, y person rydych yn ei ffonio ac efallai unrhyw aelod pwysig arall o’r teulu. Bydd hyn yn eich helpu i wneud yr alwad yn un bersonol.
  • Byddwch â’r wybodaeth berthnasol wrth law – meddyliwch am y cwestiynau y mae pobl yn debygol o’u gofyn a byddwch yn barod â’r ymateb neu’r wybodaeth i’w cyfeirio ymlaen. Rhai o’r cwestiynau y gellid eu gofyn yw beth fydd yn digwydd nesaf mewn perthynas â’r person sydd wedi marw, i ble fydd yn cael ei gludo, pwy fydd yn trefnu i gael cyfarwyddwr angladdau, sut y gallant gael gafael ar gymorth i rai mewn profedigaeth, â phwy y gallant gysylltu os bydd ganddynt gwestiynau i’w gofyn.
  • Meddyliwch am sut byddwch yn dechrau’r sgwrs – rhaid cadw’r cydbwysedd rhwng ychydig o eiriau o gyflwyniad a dod at y pwynt. Bydd pobl yn gwybod bod gennych reswm dros yr alwad/ymweliad.
  • Byddwn yn tueddu i siarad yn gyflymach os byddwn yn bryderus felly ceisiwch arafu a rhoi digon o amser i glywed beth fyddwch yn ei ddweud. Mae cyfri i 3 yn eich pen rhwng brawddegau yn gallu helpu i arafu pethau.
  • Defnyddiwch iaith uniongyrchol ond mewn ffordd sensitif. Peidiwch â defnyddio disgrifiadau amhendant am ‘golli rhywun’ neu ddweud ‘ei fod mewn lle gwell’ neu ‘dyw ei iechyd ddim yn dda iawn’ – mae’n hawdd camddehongli ymadroddion o’r fath.
  • Peidiwch â cheisio osgoi’r wybodaeth allweddol drwy siarad yn hir cyn dod at y datganiad terfynol. Dechreuwch drwy ddweud beth mae angen i chi ei ddweud wrth y person ond gwnewch hynny mewn ffordd garedig a thyner:
  • Ni ddylech bryderu am adael seibiau yn y sgwrs:

“Helô, fy enw i yw xxxx. Rydw i’n un o’r tîm sy’n gofalu am xxxx. Mae angen i mi siarad â chi am xxxx. Ga i ofyn a ydych chi’n gallu siarad â mi am ychydig funudau? Oes angen i chi ddod o hyd i rywle tawel?”

Yn ystod y sgwrs

  • Byddwn yn tueddu i siarad yn gyflymach os byddwn yn bryderus felly ceisiwch arafu a rhoi digon o amser i glywed beth fyddwch yn ei ddweud. Mae cyfri i 3 yn eich pen rhwng brawddegau yn gallu helpu i arafu pethau.
  • Defnyddiwch iaith uniongyrchol ond mewn ffordd sensitif. Peidiwch â defnyddio disgrifiadau amhendant am ‘golli rhywun’ neu ddweud ‘ei fod mewn lle gwell’ neu ‘dyw ei iechyd ddim yn dda iawn’ – mae’n hawdd camddehongli ymadroddion o’r fath.
  • Peidiwch â cheisio osgoi’r wybodaeth allweddol drwy siarad yn hir cyn dod at y datganiad terfynol. Dechreuwch drwy ddweud beth mae angen i chi ei ddweud wrth y person ond gwnewch hynny mewn ffordd garedig a thyner:

“Mae’n ddrwg iawn gen i fy mod yn gorfod dweud hyn wrthych chi ond, gwaetha’r modd, mae xxxx wedi marw y bore/ prynhawn/ noson yma. Rydw i am i chi wybod ei bod wedi digwydd yn dawel iawn ac roeddwn i/roedd xxxx gydag ef.”

“Mae’n ddrwg iawn gen i orfod dweud hyn wrthych chi ond, gwaetha’r modd, mae xxxx wedi mynd yn wael iawn ac rydyn ni’n poeni’n fawr amdano. Mae’n wael iawn ar hyn o bryd a dydyn ni ddim yn sicr y bydd yn gallu ymadfer”

“Rwy’n deall ei bod yn anodd iawn clywed hyn. Cymerwch ychydig o eiliadau……”

Geiriau y gallwch eu dweud

Dylech gydnabod bod y sefyllfa hon yn un anodd iawn a’ch bod yn deall ei bod yn peri gofid:

“Alla i ddim dychmygu pa mor anodd yw hyn i chi. Rwy’n gwybod, pe byddai’r amgylchiadau’n wahanol, y byddech chi am ddod yma i ffarwelio ac mae’n ddrwg gen i nad yw hynny’n bosibl”

“A oes rhywbeth fyddech chi’n hoffi i mi wneud/ddweud wrth xxxx cyn iddo ein gadael ni?”

Dylech gydnabod y gall pobl deimlo’n ddig yn ogystal â bod mewn gofid:

“Rwy’n deall bod hyn yn anodd iawn a’ch bod chi’n teimlo’n ddig am y sefyllfa. Oes rhywbeth y galla i ei wneud/ddweud wrthych chi i’ch helpu i deimlo’n fwy agos i xxxx”

Gofynnwch a oes gan y person unrhyw gwestiynau a byddwch yn barod i ateb cwestiynau am y munudau/oriau olaf ym mywyd yr ymadawedig a phwy oedd gydag ef. Atebwch y cwestiynau mor onest ond mor garedig ag y gallwch:

“Gwnaethon ni bopeth a allen ni i sicrhau nad oedd mewn poen/yn teimlo ofn ac roedd rhywun gydag ef. Rydyn ni’n gwybod y byddai ei deulu gydag ef mewn sefyllfa ddelfrydol ond gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod ni wedi sicrhau ei fod yn gwybod ei fod yn cael ei garu a’i barchu”

“Rydyn ni’n gwneud popeth a allwn ni i’w wneud yn gyfforddus ac i sicrhau ei fod yn cael y gofal iawn; rydw i’n gwybod ei bod yn anodd i chi glywed hyn gan wybod na allwch chi ddod i’w weld ond a oes rhywbeth y byddech yn hoffi i ni ei ddweud wrtho?”

Peidiwch â chael eich temtio i roi llawer o fanylion os nad yw’r person wedi gofyn amdanynt. Bydd digon o amser ar gyfer hynny pan fydd pobl yn barod i ofyn eu cwestiynau. Atebwch y cwestiynau a ofynnir i chi a rhowch ddigon o amser i bobl ddeall beth a ddywedwyd wrthynt ond peidiwch â theimlo’ch bod yn gorfod llenwi’r bylchau.

Wedi i chi ateb unrhyw gwestiynau, holwch i sicrhau’ch bod wedi dweud popeth y mae angen i’r person ei wybod. Gall hyn gynnwys beth fydd yn digwydd nesaf, unrhyw wybodaeth sydd ei hangen am gofrestru’r farwolaeth neu gysylltu â’r cyfarwyddwr angladdau.

Holwch i sicrhau bod y person wedi deall y newyddion ac unrhyw wybodaeth rydych wedi’i rhoi:

“Rwy’n sylweddoli bod y newyddion hyn yn rhai anodd eu clywed. Mae’n llawer i’w gymryd i mewn ond a oes gennych chi unrhyw gwestiynau, a oes rhywbeth y byddech chi’n hoffi i mi fynd drwyddo eto?”

Gallech holi a oes unrhyw wybodaeth y mae am ei chael drwy neges testun neu e-bost er mwyn ei chael mewn ysgrifen (gwiriwch fod modd i chi wneud hyn cyn ei gynnig).

Syniadau y gallwch eu cynnig

Ar ôl y sgwrs

Gofalwch amdanoch chi’ch hun. Mae’r sefyllfaoedd hyn yn dreth ar y corff a’r emosiynau. Cymerwch seibiant bach, ewch i nôl cwpanaid o de neu siarad â chydweithiwr neu ffrind cyn mynd yn ôl at eich dyletswyddau arferol. Gadewch i’ch cydweithwyr wybod eich bod wedi cael y sgwrs anodd hon fel y gallan nhw eich cefnogi hefyd.

Cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd mewn profedigaeth

Fel un sy’n gweithio fel gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol yn ystod yr argyfwng Covid-19, mae’n bosibl y byddwch yn cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd mewn profedigaeth neu’n cynnig cyngor i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar ac yn gorfod egluro i’w plant beth sydd wedi digwydd. Mae’r adnodd isod yn cynnig gwybodaeth ac awgrymiadau ymarferol i’ch helpu.

Fel oedolion, rydym yn aml yn ei chael yn anodd siarad am farwolaeth. Mae’n bwnc sy’n cael ei osgoi ac mae ein pryderon ein hunain yn gallu ein gwneud yn anghyfforddus wrth sôn amdano. Os byddwn yn siarad â phlant am farwolaeth, gall hynny wneud i ni deimlo’n amddiffynnol, gan ddymuno eu gwarchod rhag gwybod am farwolaeth. Fodd bynnag, y gwir yw bod hyn yn gallu gwneud y plant yn fwy pryderus am yr anhysbys. Mae plant yn sensitif iawn i emosiynau oedolion ac yn aml bydd yr anhysbys yn codi mwy o ofn ar blentyn na’r gwirionedd. Gellir ymdrin â’r gwirionedd ac mae’n bwysig iawn bod plant yn deall bod marwolaeth yn rhan o fywyd a bod unrhyw emosiynau y maent yn eu teimlo yn rhai naturiol.

Siarad â phlant – awgrymiadau

  • Peidiwch ag ofni ‘dweud y peth anghywir’ neu ‘wneud pethau’n waeth’ – mae hyn wedi digwydd eisoes. Bydd eich sgwrs yn sicr o helpu’r plentyn neu berson ifanc.
  • Byddwch yn naturiol, defnyddiwch eich geiriau’ch hun.
  • Byddwch yn ymwybodol o’ch diwylliant eich hun/eich credoau am farwolaeth.
  • Peidiwch â chymryd bod y plentyn yn gwybod bod y person yn marw neu wedi marw.
  • Ceisiwch siarad â phlant/pobl ifanc mor fuan ag y gallwch. Os ydynt yn ymwybodol bod y coronafeirws gan rywun, mae’n bosibl eu bod yn aros am newyddion.
  • Meddyliwch am y lle rydych am gynnal y sgwrs. Dewch o hyd i le tawel lle gallwch roi’ch holl sylw i’r plentyn.
  • Ystyriwch a fyddwch yn siarad â’r holl frodyr a chwiorydd yr un pryd, neu â’r plant hŷn yn gyntaf. Bydd hyn yn dibynnu ar oed y plant ac amgylchiadau’r teulu
  • Byddwch yn onest – mae plant yn gwybod pan fyddwn yn cuddio pethau a gall hyn wneud iddynt deimlo na allant ymddiried ynom.
  • Cyfeiriwch at y person sydd wedi marw wrth ei enw bob tro.
  • Byddwch yn sensitif a gwrandewch ar y plentyn.
  • Rhannwch eich profiadau’ch hun.
  • Holwch am eu hatgofion a’u profiadau o’r person sydd wedi marw. Pa fath o berson oedd ef? Beth yw eu hoff atgofion? Gadewch i’r plant siarad amdanynt.
  • Peidiwch byth â defnyddio geiriau teg fel ‘wedi mynd i ffwrdd’, ‘wedi mynd i gysgu’, neu ‘i fyny yn y nef’. Mae’r rhain yn syniadau hyfryd ond gallant ddrysu plentyn a pheidio â chyfleu iddo fod yn sefyllfa’n un barhaol. Defnyddiwch y termau cywir fel ‘wedi marw’, ‘marwolaeth’ neu ‘marw’.
  • Peidiwch â rhoi taw ar blentyn oherwydd gallai hyn wneud iddo deimlo na ddylai ofyn cwestiynau
  • Gadewch i blant ofyn cwestiynau ac atebwch nhw mor onest ag y gallwch. Rhai o’r cwestiynau y bydd plant yn eu gofyn yn aml yw: Pam roedd hi wedi marw? Sut roedd hi wedi marw? Pam mae pobl yn marw? Fydda i’n marw? Fydd mam yn marw hefyd? Beth sy’n digwydd pan ydych chi’n marw?

Dyma rai ymatebion i’ch helpu i egluro marwolaeth i blant:

“Mae marwolaeth yn rhan o fywyd ac mae pob peth yn marw, ond dyw hynny ond yn digwydd pan fydd rhywun yn sâl iawn ac nad yw’r meddygon yn gallu ei wella.”

“Dyw ein cyrff ni ddim yn gweithio bellach”

“Dyw pobl sy’n iach ddim yn marw fel’na, a does dim rheswm i feddwl y byddan nhw’n marw.”

“Beth wyt ti’n meddwl sy’n digwydd pan fydd rhywun yn marw?”

Bydd gan rai teuluoedd gredoau crefyddol am beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn marw, ond dylech gymryd y gallai’r plentyn weld hyn yn ei ffordd ei hun.

  • Peidiwch ag ofni sôn am beth fydd yn digwydd nesaf, am bethau fel cyfarwyddwr angladdau a chladdu/amlosgi. Eglurwch y bydd yn gallu ffarwelio yn ei ffordd ei hun. Oherwydd y cyfyngiadau presennol ar angladdau, gofynnwch sut byddai’n hoffi i’r angladd fod ac anogwch y plentyn i gymryd rhan i greu ffordd ystyrlon i ffarwelio.
  • Peidiwch â chymryd y bydd y plentyn yn drist am y farwolaeth. Yn ôl eu hoed, bydd plant yn aml yn derbyn y ffaith ac yn parhau â’u gweithgareddau pob dydd. Mae plant yn byw yn y presennol. Mae’r tabl isod yn rhoi rhyw syniad o’r ffordd y byddai eu dealltwriaeth yn gallu amrywio yn ôl oed.
  • Gadewch i’r plentyn alaru yn y ffordd y mae’n ei dymuno. Bydd pob person yn galaru mewn ffordd wahanol, ac mae unrhyw fath o emosiwn i’w ganiatáu.
  • Enwch yr emosiwn rydych yn ei weld yn y plentyn er mwyn ei helpu i ddeall ei deimladau.
  • Gofynnwch i’r plentyn a fyddai’n hoffi gwneud gweithgareddau cofio, ond derbyniwch na fydd am wneud hynny o bosibl ar yr adeg hon. Gellir ailedrych ar hyn pan fydd yn barod.
  • Gofynnwch a oes rhywun penodol y byddai’n hoffi siarad ag ef i gael cefnogaeth. Efallai fod rhywun y mae’n ymddiried ynddo ac yn teimlo ei fod yn cael cefnogaeth ganddo.

Syniadau i ffurfio atgofion

  • Gwneud bocs atgofion – gellir defnyddio bocs esgidiau, neu unrhyw fath o focs yn y cartref, i wneud hyn. Gall y plentyn roi eitemau yn y bocs sy’n ei atgoffa am y person sydd wedi marw, er enghraifft, lluniau, storïau neu ddarluniau. Gall y plentyn addurno’r bocs i wneud iddo deimlo ei fod yn berchen arno.
  • Goleuwch gannwyll arbennig er cof am y person.
  • Efallai y bydd y plentyn am roi eitem o’i eiddo ei hun (e.e. tedi) i fod gyda’r person.
  • Crëwch jar pryderon, jar atgofion, neu freichledi atgofion.

Deall marwolaeth: oedran a chyfnod

Mae'r adnodd hwn yn dangos sut mae plant yn deall marwolaeth ac ar ba gam yn eu bywydau.

Helpu i egluro coronafirws i blant

Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio i helpu i egluro coronafirws i blant:

Mae'r gwefannau hyn yn darparu cyngor pellach ar gynnig cymorth profedigaeth:

Cydnabod pan yw’ch tîm yn galaru ac arwain ac ymateb gyda thosturi

Gofynnir i nifer mawr o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru ddarparu gofal diwedd oes tosturiol mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Mae hyn yn her emosiynol fawr i nifer mawr o staff. Mae timau a’u harweinwyr yn gallu eu helpu.

Arweinwyr tîm yn modelu arweinyddiaeth dosturiol:

  • Rhoi sylw: rhoi sylw i aelodau’r tîm – ‘gwrando gyda diddordeb mawr’
  • Deall: cyd-ddealltwriaeth o beth mae aelodau eu tîm yn ei wynebu
  • Dangos empathi: cydymdeimlo â nhw yn eu poen, eu hofn, eu pryder, eu rhwystredigaeth, eu dicter, eu galar
  • Helpu: cymryd camau deallus i wasanaethu neu helpu aelodau’r tîm i ddarparu’r gofal tosturiol o ansawdd da y maent yn dymuno ei ddarparu a gofalu am eu lles

Beth arall y gall arweinwyr tîm ei wneud?

  • Sicrhau bod datganiad clir o’r pwrpas uwch sydd i waith y tîm a’i fod wedi’i ddeall gan bawb ac yn cael ei gadarnhau’n aml – fel galluogi cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, cleientiaid i fyw a marw gan deimlo’n ddiogel a’u bod mewn man lle mae pobl yn eu caru ac yn gofalu amdanynt
  • Annog aelodau’r tîm i fodelu cymorth tosturiol i’w gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwn – gwrando, deall, helpu a dangos empathi. Gallant helpu drwy ddangos caredigrwydd a thosturi a mewngofnodi gyda’i gilydd.
  • Lleihau’r hierarchaeth a’r ffiniau o fewn y tîm ac, os yw’n bosibl, eu hannog i fwyta gyda’i gilydd, cael cwpanaid o goffi gyda’i gilydd etc.
  • Annog aelodau’r tîm i gydnabod, er ein bod yn tueddu i ganolbwyntio ar hyfforddiant technegol, y dylid canolbwyntio i’r un graddau (os nad yn fwy) ar sut rydym yn cydweithio fel aelodau cefnogol, tosturiol o’r tîm
  • Annog aelodau’r tîm i helpu ei gilydd drwy gydnabod a dilysu teimladau ei gilydd.
  • Sicrhau bod y tîm yn cael amser yn rheolaidd i fyfyrio a rhannu ac i gynllunio ac adolygu gyda’i gilydd. Yn y cyfnod tyngedfennol hwn, dylid gwneud hyn bob dydd, er enghraifft, ar ddechrau neu ddiwedd sifft, ac amserlennu rhai adolygiadau hirach pryd bynnag y gellir
  • Mae ymddiriedaeth yn allweddol – ymddiried yn naioni cynhenid ein gilydd ac ymddiried yng ngalluoedd/sgiliau pobl eraill.

Yn enwedig ar yr adeg hon, rhaid i arweinwyr gyfleu eu:

  • Diffuantrwydd
  • Gonestrwydd a pharodrwydd i fod yn agored
  • Optimistiaeth
  • Gwerthfawrogiad
  • ac, wrth gwrs, tosturi.

Dyma rai dolenni sy'n cynnig cefnogaeth a meddyliau pellach ar arweinyddiaeth dosturiol yn ystod pandemig Covid-19:

Gofal ar ôl marwolaeth a threfniadau angladd

O ganlyniad i’r pandemig Covid-19, mae’r cyngor ar ofal ar ôl marwolaeth yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau yn diweddaru eu gwybodaeth yn rheolaidd ynghylch pa drefniadau angladd sy'n bosibl ar hyn o bryd.

Mae'r dolenni canlynol yn darparu syniadau ar rai ffyrdd amgen y gall anwyliaid ffarwelio'n ystyrlon os nad yw'n bosibl mynychu angladd:

Gwaith cymdeithasol a gofal diwedd oes yn ystod y pandemig Covid-19

Mae Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) a Association of Palliative Care Social Workers wedi datblygu adnoddau i gynorthwyo gweithwyr cymdeithasol yn ystod y pandemig Covid-19. Mae cyngor yn y dolenni isod am agweddau ar ymarfer, defnyddio PPE a darparu gofal diwedd oes.

Mynegi dymuniadau diwedd oes, cynllunio gofal ymlaen llaw a chynlluniau gofal ymlaen llaw

Gallwn feddwl am yr hyn yr hoffem ddigwydd pe byddem yn ddifrifol sâl ac yn marw. Fel gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, efallai y byddwch yn wynebu cyfnodau pan fydd y rhai rydych chi'n gofalu amdanynt eisiau trafod eu dymuniadau gyda chi os oes angen gofal diwedd oes. Yn aml iawn, mae’r trafodaethau hyn yn cael eu galw’n ‘cynllunio gofal ymlaen llaw’.

Mae hyn yn golygu trafodaethau lle gall yr unigolyn dan sylw drafod ei ddewisiadau ynglŷn â'r gofal maen nhw’n ei dderbyn, pwy neu beth sy'n bwysig iddyn nhw a phenderfyniadau ynglŷn â’u materion personol. Dyma fideo sy'n egluro mwy am gynllunio gofal ymlaen llaw.

Mae cynllun gofal ymlaen llaw yn gofnod ysgrifenedig o’r dymuniadau hynny. Mae’r fideo byr yma yn egluro’r gwahaniaeth rhwng cynllunio gofal ymlaen llaw a chynllun gofal ymlaen llaw.

Mae yna ffyrdd gwahanol o gofnodi dymuniadau person - mae rhai yn gyfreithiol rwymol sydd angen llofnod uwch glinigwr, tra bod eraill ddim yn gyfreithiol rwymol ond yn ffordd o wneud dymuniadau yn hysbys i aelodau'r teulu a gweithwyr proffesiynol. Yma ceir enghreifftiau o dempledi ac esboniadau o'r gwahanol ffyrdd o gofnodi cynlluniau gofal ymlaen llaw.

Cefnogi sgyrsiau am gynllunio gofal ymlaen llaw

Gall sgyrsiau am ddymuniadau diwedd oes fod yn anghyfforddus ac achosi cryn ofid. Mae'n bwysig parchu hawl yr unigolyn i fynegi ei ddymuniadau wrthoch chi ac i beidio ag osgoi’r sgwrs.

Mae Marie Curie, elusen sy’n cefnogi pobl drwy salwch angheuol, wedi cynhyrchu adnoddau i’ch cefnogi. Mae'r adnoddau'n cynnig cyngor ar sut i gael y sgwrs mewn ffordd sensitif, empathig a moesegol.

Mae Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon wedi cynhyrchu’r ffilm 10 munud hwn i'ch tywys drwy’r sgyrsiau anodd am ddymuniadau diwedd oes. Mae'n gofyn rhai o'r cwestiynau y bydd y person sydd yn eich gofal, o bosib, eisiau meddwl amdanyn nhw.

Bydd y pwyntiau canlynol, a ddatblygwyd gan Hosbis y Cymoedd, yn helpu i gefnogi trafodaethau ynglŷn â dymuniadau diwedd oes:

  • Gall trafodaethau am gynllunio ymlaen llaw helpu i rwystro derbyniadau diangen a digroeso mewn ysbytai, drwy ddeall beth sy'n bwysig i'r person
  • Efallai y byddan nhw eisiau trafod pa driniaeth neu ofal nad ydyn nhw eisiau, mae mwy o wybodaeth isod ar wneud Penderfyniad i Wrthod Triniaeth Ymlaen Llaw
  • Efallai yr hoffent drafod penodi Atwrneiaeth Arhosol a phenderfynu pwy fydd yn gwneud penderfyniadau os ydyn nhw’n colli’r gallu i wneud hynny. (Mae gwybodaeth yn yr adran isod ar gyfer y rheini sy’n cael eu hasesu fel rhai sydd heb y gallu)
  • Gall fod yn gyfle i berson reoli materion ac ystyried gwneud ewyllys, neu dweud wrth rywun lle mae eu hewyllys
  • Gall gynnwys trafod eu dewis o le gofal a/neu dewis lle'r unigolyn i farw
  • Gallai gynnwys darparu cymorth emosiynol i'r person i'w alluogi i drafod ei ddymuniadau gyda’r teulu neu ffrind agos. Yn yr amgylchiadau presennol efallai y bydd angen i chi gefnogi'r defnydd o alwadau fideo i helpu i hwyluso hyn
  • Efallai y bydd angen i chi roi cymorth emosiynol i aelodau'r teulu sy'n ei chael hi’n anodd trafod dymuniadau eu hanwyliaid
  • Gallai trafodaethau gynnwys cynllunio ariannol, er enghraifft, gwireddu yswiriant bywyd neu salwch difrifol, cael mynediad at gyfrifon banc, rhestru polisïau/pensiynau, gwneud ceisiadau am fudd-daliadau, y mae pob un ohonynt yn galluogi'r unigolyn â’r salwch i farw gan wybod bod eu teulu'n cael eu cefnogi
  • Efallai y bydd y person am drafod pwy fydd yn gofalu am eu hanifeiliaid anwes ar ôl iddynt farw
  • Efallai y byddent am gael cyfle i roi eiddo i anwyliaid, neu drefnu i'r eitemau hyn gael eu trosglwyddo
  • Efallai y bydd rhywun eisiau cynllunio ei angladd. Gallant wneud hynny drwy rannu eu syniadau a'u dymuniadau neu drwy weithio'n uniongyrchol gyda threfnydd angladdau i drefnu ac i dalu ymlaen llaw am yr angladd. Mae cyfyngiadau ar hyn o bryd ynglŷn â’r hyn sy'n bosib a cheir mwy o wybodaeth ar ofal ar ôl marwolaeth a threfniadau angladd
  • Efallai yr hoffent wneud penderfyniadau am eu hetifeddiaeth ddigidol
  • Efallai y byddan nhw'n trafod eu credoau ysbrydol/crefyddol gyda chi a sut maen nhw am i'r rhain gael eu cynnwys os bydd eu hiechyd yn dirywio neu adeg marwolaeth
  • Efallai bod ganddyn nhw syniadau am bethau maen nhw eisiau eu gwneud a sut i dreulio'r amser sy'n weddill. Mae'r amgylchiadau presennol yn caethiwo pethau ond gall hyd yn oed y pethau bychain a phrofiadau bach fod yn arwyddocaol. Efallai y byddan nhw eisiau gwylio eu hoff ffilm, bwyta eu hoff ddanteithion, edrych ar ffotograffau neu rannu atgofion. Mwy o wybodaeth ar gynnig cysur i berthnasau nad ydynt yn gallu bod gyda'u hanwyliaid a rhannu newyddion trist â nhw
  • Efallai y byddan nhw eisiau sicrwydd y bydd eu teulu'n cael eu cefnogi drwy eu galar
  • Efallai y byddan nhw eisiau trafod ac archwilio gyda chi beth mae bywyd wedi’i olygu, beth mae gobaith yn ei olygu neu pa werthoedd sy’n bwysig
  • Efallai y byddan nhw eisiau rhannu atgofion melys
  • Efallai y bydd y person eisiau cynllunio negeseuon arhosol i’w hanwyliaid.

Mae'n bwysig sicrhau bod gan y person yr holl wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau gwybodus, a'i bod yn cael ei chyflwyno mewn ffordd ddealladwy.

Dyma ychydig o adnoddau’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE) a Marie Curie sy’n gallu eich helpu gyda hyn:

Mae Compassion in Dying wedi cynhyrchu adnoddau i gefnogi trafodaethau cynllunio ymlaen llaw yn ystod Covid-19. Gallwch hefyd ddod o hyd i dempled ar gyfer datganiad ymlaen llaw. Nid yw hon yn ddogfen sy'n gyfreithiol rwymol ond mae'n dempled y gall rhywun gofnodi ei ddewisiadau a'i ddymuniadau.

Mae gan Byw Nawr sianel YouTube gydag amrywiaeth o ffilmiau byrion yn egluro gwahanol agweddau ar gynllunio gofal ymlaen llaw a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Cefnogi dymuniadau diwedd oes ar gyfer y rheini heb allu

Yn gyfreithiol, mae gan unrhyw oedolyn sydd â galluedd meddyliol, yr hawl i wneud dewisiadau ynglŷn â’u bywyd a'r gofal maen nhw'n ei dderbyn. Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru wybodaeth ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Os aseswyd nad oes gan rywun alluedd meddyliol, mae angen gweld a oes ganddyn nhw Atwrneiaeth Arhosol neu Orchymyn Gwarcheidiaeth. Yma ceir wybodaeth am y gwahanol fathau o Atwrneiaeth Arhosol a’u pwerau cyfreithiol.

Os aseswyd nad oes gan rywun alluedd, nid yw hyn yn golygu na allan nhw fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Ystyriwch eu galluoedd a sut orau i'w cynnwys. Ceisiwch ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw. Mae penderfyniadau ynglŷn â phethau sydd o bwys iddyn nhw ac sy'n dod â chysur yr un mor bwysig. Os nad ydy rhywun yn gallu siarad, edrychwch am arwyddion i geisio sefydlu eu dymuniadau. Gofynnwch i'r rhai sy'n eu hadnabod yn dda i’ch helpu gyda hyn, gan gynnwys ffrindiau agos ac aelodau’r teulu.

Mae’r rhwydwaith PCPLD wedi datblygu adnoddau sy’n hawdd i’w darllen i gefnogi cynllunio gofal ymlaen llaw gyda phobl sydd ag anawsterau dysgu.

Mae defnyddio Cyfarpar Diogelwch Personol (PPE), er yn hanfodol, yn anghyfforddus ac yn gallu creu rhwystrau wrth gyfathrebu. Gallai hyn greu rhwystr i gefnogi trafodaethau ynglŷn â dymuniadau diwedd oes. Yma ceir cymorth a gwybodaeth ynglŷn â sut i wella cyfathrebu tra’n gwisgo PPE.

Etifeddiaeth ddigidol

Bellach mae'n gyffredin i bobl o bob oed gael mynediad i'r rhyngrwyd a/neu i wybodaeth amdanynt fod ar gael ar y rhyngrwyd. Gelwir y wybodaeth ar-lein hwn yn ‘etifeddiaeth ddigidol’. Gweler diffiniad y Gymdeithas Llythrennedd Ddigidol isod:

'Etifeddiaeth ddigidol yw'r wybodaeth ddigidol sydd ar gael am rywun yn dilyn eu marwolaeth. Mae etifeddiaeth ddigidol rhywun yn aml yn cael ei lywio gan y rhyngweithio a wnaeth y person a’r wybodaeth a grëwyd cyn iddynt farw. Gallai hyn gynnwys eu proffiliau cyfryngau cymdeithasol, sgyrsiau ar-lein, ffotograffau, fideos, proffiliau gemau a'u gwefan neu flog.

Gall etifeddiaeth ddigidol rhywun hefyd gael ei llywio gan gynnwys sy'n cael ei greu neu ei gyd-greu gan eraill. Gall hyn gynnwys rhyngweithio sydd wedi digwydd ar wal neu edefyn cyfryngau cymdeithasol rhywun arall. Efallai y bydd etifeddiaeth ddigidol rhywun hefyd yn cael ei llywio gan yr hyn y mae eraill wedi'i bostio ar-lein am yr unigolyn mewn papur newydd, blog neu wefan allanol.'

Gall dymuniadau diwedd oes archwilio beth yw'r opsiynau o ran sut hoffent i'w hetifeddiaeth ddigidol gael ei rheoli. Dyma adnoddau i gefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu hetifeddiaeth ddigidol.

Penderfyniadau i Wrthod Triniaethau Ymlaen Llaw (ADRT)

Mae gan rai unigolion ddymuniadau clir iawn ynglŷn â’r driniaeth nad ydyn nhw eisiau ei gael os ydyn nhw'n ddifrifol wael. Gellir cofnodi'r penderfyniadau hyn mewn dogfen sy'n gyfreithiol rwymol o'r enw ‘Penderfyniad i Wrthod Triniaeth Ymlaen Llaw’. Yma ceir rhagor o wybodaeth a chopïau o'r templedi. Mae angen llofnod meddyg teulu neu feddyg sy’n cael ei enwi ar y dogfennau hyn.

Mae canllawiau penodol ynglŷn â Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol (DNACPR) mewn perthynas â Covid-19 wedi’u cyhoeddi.

Gellir dod ar draws mythau am adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a’i effeithiolrwydd. Mae gan TalkCPR adnoddau hygyrch sy’n esbonio'r broses a sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud o ran eu defnyddio.

Nid oes unrhyw bolisïau cyffredinol o ran defnyddio CPR a thriniaeth cynnal bywyd i unigolion sy'n agored i niwed. Dylid gwneud penderfyniadau ar sail unigol, er eu lles gorau a lle bynnag y bo hynny'n bosibl, ar y cyd â'r unigolyn sy'n sâl. Gwnaeth Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru, Dr Frank Atherton, a’r Prif Swyddog Nyrsio, yr Athro Jean White, y datganiad canlynol yn ddiweddar:

“Ni ddylai oedran, anabledd na chyflwr hirdymor ar eu pennau eu hunain byth fod yn rheswm dros gyflwyno gorchymyn DNACPR yn erbyn dymuniadau'r unigolyn. Mae'n parhau i fod yn hanfodol gwneud penderfyniadau ar sail sefyllfaoedd unigol a thrwy ymgynghori ag unigolion. Nid yw'n dderbyniol i gynlluniau gofal o flaen llaw, pa un a ydynt yn cynnwys ffurflen DNACPR wedi’i chwblhau ai peidio, gael eu defnyddio gyda grwpiau o bobl o unrhyw fath. Rhaid parhau i wneud y penderfyniadau hyn ar sail sefyllfaoedd unigol ac ar sail anghenion a dymuniadau'r unigolyn.”

Gallwch ddarllen eu datganiad llawn yma Decisions on do not attempt cardiopulmonary resuscitation (DNACPR): age, disability and long term conditions

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Iechyd Cymru hefyd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar advanced care planning in Wales.

Terminoleg

Rydym yn gwerthfawrogi bod rhai o'r termau hyn yn debyg iawn a gallant fod yn ddryslyd. Dyma ddogfen Deall y Jargon sy'n diffinio'n glir bob un o'r termau rydyn ni wedi'u defnyddio yn yr adnodd hwn.

Rhagor o wybodaeth a diolchiadau

Byddwn yn ychwanegu adrannau ar y topigau canlynol cyn hir:

  • Gofalu am oedolion ifanc ar ddiwedd oes
  • Hunanofal a hydwythedd
  • Cofio’r rheini sydd wedi marw
  • Darparu gofal ysbrydol ar ddiwedd oes.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i rywbeth, cysylltwch â ni.

Diolchiadau

*Cafodd yr adnoddau hyn eu curadu a’u cynhyrchu gan Hannah Williams, Rheolwr Gwella Datblygu yn Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda chymorth parod a mewnbwn gan:

  • Dr Megumi Baba, Meddyg Ymgynghorol ar Feddyginiaeth Liniarol Pontio Pediatrig, Hosbis Tŷ Hafan a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro
  • Anna Bowyer, Therapydd Chwarae, Hosbis Tŷ Hafan
  • Dr Jo Elverson, Meddyg Ymgynghorol ar Feddyginiaeth Liniarol, Hosbis St Oswald’s
  • Sarah Harries, Gweithiwr Cymdeithasol Gofal Lliniarol, Hosbis y Cymoedd
  • Tracy Jones, Gweithiwr Cymdeithasol a Phennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phartneriaethau, Hosbis Tŷ Hafan
  • Dr Julie Latchem-Hastings, Cymrodor Ôl-ddoethurol, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Canolfan Ymchwil Treialon, Coleg Biomeddygol a Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Caerdydd
  • Jonathan Pearce, Gweithiwr Cymdeithasol ac Arweinydd Cymorth Teuluol, Hosbis y Cymoedd
  • Lynne Phelps, Therapydd Chwarae, Hosbis Tŷ Hafan
  • Yr Athro Michael West, Uwch-gymrodor Gwadd, The King’s Fund, Athro Seicoleg Trefniadaeth, Prifysgol Caerhirfryn.