Jump to content
Fframwaith Gwaith Da: gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia ac wedi colli eu clyw neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain

Cyngor a chanlyniadau dysgu ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia ac wedi colli eu clyw neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae'r dudalen hon ar gyfer unrhyw un sy'n:

  • mewn cysylltiad neu’n gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia sydd hefyd â cholled clyw neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • mewn cysylltiad neu’n gweithio gyda theuluoedd pobl sy’n byw gyda dementia sydd â cholled clyw neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • mewn cysylltiad neu'n gweithio gyda phobl â dementia yn eu cartrefi eu hunain neu wrth gysylltu â gwasanaethau dementia.

Mae ganddo hefyd ganlyniadau dysgu ar gyfer hyfforddiant neu ddysgu i weithio gyda phobl â dementia sydd â cholled clyw neu sy'n defnyddio BSL.

Pam ei fod yn bwysig

Mae ymchwil yn dangos bod cysylltiad rhwng colli clyw a dirywiad gwybyddol.

Mae tystiolaeth gref i ddangos bod:

  • colli clyw ysgafn yn dyblu'r risg o ddatblygu dementia
  • colli clyw cymedrol yn arwain at deirgwaith y risg
  • mae colli clyw difrifol yn cynyddu'r risg bum gwaith.

Gwyddom hefyd fod defnyddwyr BSL yn cael profiadau gwael o ofal.

Mae’r fframwaith hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau’r adroddiad hwn.

Darllenwch fwy am y cysylltiadau rhwng colli clyw a dementia ar wefan y Social Care Institute for Excellence.

Cyn i chi ddechrau

Cyn i chi ddefnyddio'r canllaw hwn, dylech ddarllen a deall y Fframwaith dysgu a datblygu Gwaith Da Cymru. Mae hwn yn esbonio'r prif egwyddorion, gwerthoedd a sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia.

Pethau i’w cofio

  • Mae colli clyw’n ffactor risg y gellir ei atal mewn pobl gyda dementia.
  • Mae gwahanol ffyrdd o gyfathrebu â phobl sydd â dementia ac wedi colli clyw neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, er enghraifft drwy ddefnyddio ystumiau.
  • Iaith ac nid yn offeryn cyfathrebu yw Iaith Arwyddion Prydain. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod hyn yn swyddogol yn 2014.
  • Dylai adnoddau hel atgofion fod ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain a dylai fod ganddynt is-deitlau.
  • Mae ystod o wahanol weithwyr iaith proffesiynol, gan gynnwys cyfieithwyr rhyng-ieithog.
  • Gellir defnyddio amrywiaeth o dechnoleg, yn ogystal â sbectols a chymhorthion clyw.
  • Nid iaith ond dull o gyfathrebu i rai ag anableddau dysgu yw Makaton.
  • Mae gan ofalwyr di-dâl sydd wedi colli clyw, neu sy’n fyddar, rôl hanfodol i’w chwarae. Dylai fod ganddynt fynediad at gyfieithwyr p’un ai ydynt yn gofalu neu beidio am rywun gyda dementia ac nad ydynt yn fyddar neu heb golli clyw.
  • Dylai cynlluniau fod yn eu lle i sicrhau bod y darpariaeth yn ‘barod’ cyn iddo ddechrau.

Canlyniadau dysgu

Mae cefnogaeth dda yn golygu cynllunio ymlaen llaw.

Dyluniwyd y canlyniadau dysgu hyn i baratoi eich gweithlu i weithio gyda phobl sydd wedi colli clyw.

Bydd y canlyniadau dysgu y mae angen i chi eu cyflawni yn dibynnu ar y sefyllfa

Ni fydd angen i weithwyr gyflawni’r holl ganlyniadau dysgu’n syth ond dylent fod yn gweithio tuag at eu cyflawni. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.

Mae’r canlyniadau wedi’u rhannu’n dair adran:

  • canlyniadau i bobl wybodus
    pobl sy'n deall beth yw dementia a sut mae'n effeithio ar berson â dementia a'r rhai o'u cwmpas
  • canlynidau i bobl fedrus
    mae gan bobl wybodus wybodaeth a sgiliau mwy manwl a chynhwysfawr ar draws amrywiaeth o bynciau dysgu a datblygu allweddol dros amser, yn unol â'u profiad, rôl, diddordebau ac anghenion.
  • canlyniadau ar gyfer dylanwadwyr
    pobl wybodus, efallai'n fedrus, sydd hefyd â rôl rheoli, arwain neu strategol.

Byddwch hefyd yn gweld lle mae canlyniadau dysgu yn cefnogi egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Pynciau dysgu a datblygu ar gyfer pobl wybodus

1. Dementia a cholli clyw

Mae colli clyw’n ffactor risg y gellir ei atal mewn pobl gyda dementia. Dylech gefnogi ac annog pobl i ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael a chefnogi rhywun sy’n defnyddio cymhorthion.

Canlyniadau dysgu

Bydd y dysgwr yn:

  • deall y cysylltiad rhwng colli clyw a dementia a sut y gallai hyn effeithio ar bobl, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu
  • deall sut y gallai ‘colli clyw’ neu ddementia fod yn cael eu cuddio gan amgylchiadau neu symptomau eraill
  • deall pwysigrwydd cynnal clyw da mewn pobl sy’n byw gyda dementia
  • gwybod pa gymorth sydd ar gael drwy’r gwasanaethau awdioleg i gefnogi ac atal colli clyw heb ddiagnosis a heb ei reoli

Adnoddau

Mae'r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw adnoddau allanol.

2. Cyfathrebu cyffredinol

Mae ystumiau (wyneb a chorff) yn ddull cyfathrebu defnyddiol i bawb.

Bydd y dysgwr yn:

  • deall sut y mae ystumiau’n rhan pob dydd o gyfathrebu, gan ddatblygu’r sgiliau hyn er mwyn gallu eu defnyddio’n hyderus
  • ymwybodol bod pawb yn gyfrifol am ddefnyddio ystumiau a mathau di-eiriau eraill o gyfathrebu
  • adnabod eu rhagfarn ddiarwybod eu hunain a gwella eu dealltwriaeth o beth y mae’n ei olygu i fod yn ‘clywed’ a gwerthfawrogi’r gwahaniaeth.

Adnoddau

Mae'r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw adnoddau allanol.

Pynciau dysgu a datblygu i bobl fedrus

1. Ymgysylltu â phobl fyddar neu drwm eu clyw

Gelwir ‘cyfieithwyr rhyng-ieithog’ yn aml yn ‘gyfieithwyr cyfnewid’ (deaf relays). Maen nhw’n gyfieithwyr byddar cymwysedig ac yn gweithio ochr yn ochr â chyfieithwyr BSL / Saesneg i roi cyfieithiad arbenigol a phwrpasol i bobl fyddar sydd angen y gwasanaeth hwn. Mae cyfieithwyr rhyng-ieithog yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chyfathrebu a’i deall gan y cyfieithydd a’r person byddar.

Mae gweithio gyda chyfieithydd rhyng-ieithog yn cefnogi Egwyddor 2 y Ddeddf Galluedd Meddyliol: ‘Cefnogi unigolion i wneud eu penderfyniadau eu hunain’.

Dylai’r staff i gyd fod yn ymwybodol o wahaniaethau diwylliannol a chydraddoldeb pobl fyddar.

Canlyniadau dysgu

Bydd y dysgwr yn:

  • adnabod bod angen iddynt gadarnhau cynnydd unrhyw gyswllt cyfathrebu’n rheolaidd a bod pawb yn gyfrifol am wneud hyn a sut y gallai eu diwylliant a’u hamneidiau corfforol ddylanwadu ar eu defnydd o ystumiau a bod yn ymwybodol o hyn wrth weithio gyda phobl fyddar neu sy’n drwm eu clyw a gyda dementia.
  • gallu disgrifio’r gwahaniaeth rhwng cyfieithwyr a chyfieithwyr rhyng-ieithog a sut y gellir eu defnyddio fel rhan o ddarparu gofal a chymorth.

Adnoddau

Mae'r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw adnoddau allanol.

  • Y canllaw dementia: Iaith Arwyddion Prydain – Cymdeithas Alzheimer
    Canllaw YouTube ar ddementia i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain.

  • Taflenni ffeithiau – Cymdeithas Alzheimer
    Fideos BSL yn esbonio gwahanol fathau o ddementia.

  • Fideo BSL – Cymdeithas Alzheimer
    Yn egluro achosion Dementia.

  • Fideo BSL – Cymdeithas Alzheimer
    Yn egluro gwahanol symptomau dementia.

  • Fideo BSL – Cymdeithas Alzheimer
    Sut i aros mor annibynnol ac iach â phosibl.

2. Amgylchedd a thechnoleg

Mae amryw o wahanol fathau o dechnoleg y gallwch eu defnyddio i gefnogi pobl. Bydd rhai adegau efallai pryd na fydd pobl eisiau gwisgo sbectol neu declyn clyw.

Os yw rhywun yn gwisgo cymhorthion clyw efallai y bydd angen i chi addasu eich cyfathrebu, drwy ddefnyddio ystumiau ayyb.

Drwy wneud hyn bydd gweithwyr yn ystyried Egwyddor 1 y Ddeddf Galluedd Meddyliol. ‘Rhagdybio galluedd’ ac Egwyddor 3 y Ddeddf Galluedd Meddyliol: ‘Penderfyniadau annoeth’.

Canlyniadau dysgu

Bydd y dysgwr yn:

  • ymwybodol o faterion amgylcheddol a’u heffaith ar gyfathrebu a BSL, ac ar rai sy’n drwm eu clyw neu wedi colli clyw.
  • gallu dangos eu bod yn gallu cefnogi rhywun sy’n gwisgo sbectol neu declyn clyw i ddod o hyd i dechnoleg, cymhorthion neu gymorth arall.
  • deall sut i wirio a gofalu am gymhorthion clyw, a holi am neu wybod pa gymorth sydd ar gael.
  • sicrhau pan wneir penderfyniadau am dechnoleg, y bydd y dechnoleg wedi’i ‘diogelu at y dyfodol’ – er enghraifft bod is-deitlau bob amser ar gael yn hawdd.
  • gwneud y defnydd gorau o dechnoleg fodern a chefnogi defnyddwyr i ddefnyddio’r dechnoleg yn effeithiol a llwyddiannus, a chadw ar y blaen â thechnoleg newydd.
  • deall, er bod gennym dechnoleg, bod gan y person ddewis o ran ei defnyddio neu beidio, er enghraifft gwisgo teclyn clyw.

Adnoddau

Mae'r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw adnoddau allanol.

3. Iaith a diwylliant

Defnyddir Makaton yn aml gyda rhai sydd ag anableddau dysgu. Nid yw Makaton yn iaith.

Iaith ei hun yw Iaith Arwyddion Prydain, sydd â’i gramadeg a chystrawen ei hun.

Pan fydd rhywun yn defnyddio arwyddion mewn trefn Saesneg, maen nhw’n defnyddio ‘Saesneg Cymorth Arwyddion’. Nid Iaith Arwyddion Prydain yw hyn.

Os yw pobl fyddar wedi tyfu i fyny’n dysgu sut i siarad gan ddysgu BSL pan oeddent yn hŷn, gall y bobl hyn droi’n ôl at gyfathrebu llafar neu at eu mamiaith os ydynt yn datblygu dementia nes ymlaen.

Mae deall dewisiadau cyfathrebu neu iaith yn cefnogi Egwyddor 1 y Ddeddf Galluedd Meddyliol: ‘Rhagdybio galluedd’.

Canlyniadau dysgu

Bydd y dysgwr yn:

  • deall bod BSL yn iaith ynddi ei hun a’i bod wedi cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru yn 2014.
  • gallu disgrifio sut y mae Iaith Arwyddion Prydain yn wahanol i Saesneg.
  • ymwybodol, wrth weithio gyda phobl a allai fod yn defnyddio BSL yn wahanol – er enghraifft defnyddio arwyddion nad ydynt mwyach yn bodoli neu prin yn cael eu defnyddio, neu’n dechrau defnyddio Saesneg Cymorth Arwyddion neu siarad neu ddarllen gwefusau – mai dyna’r ‘oes’ y maen nhw’n teimlo eu bod yn ‘perthyn’ iddi ar y pryd.
  • gofyn i’r teulu neu’r person byddar sy’n byw gyda dementia am arwyddion penodol y gallent fod yn eu defnyddio, neu ba gyfieithwyr a fyddai’n well ganddynt.
  • gallu disgrifio’r gwahaniaeth rhwng ‘byddar’ a ‘trwm eu clyw’ a sut y mae hyn yn effeithio ar ddarparu gofal a chymorth.
  • gallu disgrifio sut y mae amddifadu rhywun o iaith yn gallu effeithio ar y ffordd y mae person yn derbyn, darllen a deall gwybodaeth cyn gallu gwneud eu dewisiadau neu benderfyniadau eu hunain.
  • deall pwysigrwydd bod wedi cysylltu i’r gymuned a rhwydweithiau priodol a chefnogi staff i gydnabod eu cyfrifoldeb i ddod o hyd i’r cymorth a’r adnoddau iawn, fel defnyddio’r ‘banc arwyddion’ i rai sy’n defnyddio amrywiadau rhanbarthol ar iaith arwyddion.

Adnoddau

Mae'r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw adnoddau allanol.

Pynciau dysgu a datblygu ar gyfer dylanwadwyr

1. Cefnogi staff i ymgysylltu â phobl fyddar neu drwm eu clyw

Ymwybyddiaeth o bobl fyddar

Gall ymwybyddiaeth o bobl fyddar roi sgiliau a dealltwriaeth werthfawr i staff iechyd a gofal cymdeithasol o’r cymunedau byddar a cholli clyw.

Weithiau, gallai fod yn fwy defnyddiol cael hyfforddiant pwrpasol i gwrdd ag anghenion y lleoliad.

Gofalwyr di-dâl sy’n fyddar neu wedi colli clyw

Dylech sicrhau nad oes gan bobl fyddar neu wedi colli clyw sy’n byw gyda dementia unrhyw rwystr i dderbyn gofal a chymorth.

Dylai hyn hefyd gynnwys gofalwyr di-dâl sy’n fyddar, yn enwedig os ydynt yn gofalu am berson sy’n gallu clywed ac yn byw gyda dementia.

Bydd gallu cyfathrebu â gofalwyr byddar / wedi colli clyw’n sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag Egwyddor 4 y Ddeddf Galluedd Meddyliol: ‘lles gorau’ os oes angen ar y pryd.

Canlyniadau gweladwy

Bydd dylanwadwyr yn sicrhau:

  • bod lleoliadau’n gallu adnabod darparwyr addas sy’n ymwybodol o bobl fyddar a chynllunio sut i addasu hyn i gefnogi pobl fyddar sy’n byw gyda dementia.
  • bod polisïau a gweithdrefnau yn eu lle sy’n helpu i weithio gyda gofalwyr di-dâl sy’n fyddar / trwm eu clyw.

Adnoddau

Mae'r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw adnoddau allanol.

2. Newidiadau systematig

Bydd cael cynlluniau yn eu lle’n sicrhau bod lleoliadau’n barod i roi gofal a chymorth i rywun sydd wedi colli clyw neu’n defnyddio BSL, a gyda dementia. Mae hyn yn bwysig i sicrhau nad oes raid i’r person ‘aros’ i bethau fod yn eu lle.

Dylech hefyd sicrhau bod lleoliadau’n barod i weithio â gofalwyr byddar / wedi colli clyw sy’n gofalu am rywun sy’n gallu clywed.

Canlyniadau gweladwy

Bydd dylanwadwyr yn sicrhau:

  • bod cynlluniau yn eu lle i hyrwyddo dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng dementia a cholli clyw ar gyfer pawb sy’n weithwyr gofal cymdeithasol.
  • eu bod yn gallu disgrifio ac yn barod i drafod yr egwyddor o addasiadau rhesymol.
  • bod cynlluniau yn eu lle fel bod staff yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain – a chydbwyso dysgu iaith arwyddion a’i deilwrio i’r lleoliad.
  • eu bod yn gallu adolygu a chynllunio polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod cyfieithwyr cymwysedig a chofrestredig yn cael eu harchebu’n ddi-oed ynghyd â gweithwyr cyfathrebu iaith proffesiynol eraill priodol (darllenwyr gwefusau ayyb).
  • bod polisïau a gweithdrefnau’n cael eu gwirio’n rheolaidd i sicrhau nad ydynt yn creu rhwystrau i ofalwyr byddar di-dâl.
  • bod cynlluniau yn eu lle i roi gofal a chymorth i bobl fyddar / trwm eu clyw’n syth, drwy ddilyn rhestri gwirio.
  • bod cynlluniau’n cael eu datblygu ar gyfer pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain er mwyn gallu derbyn gwybodaeth yn eu hiaith frodorol / ddewisol a chael cyfle i fynegi eu hunain yn eu hiaith ddewisol.
  • bod polisïau yn eu lle i sicrhau bod pobl sydd wedi colli clyw’n cael eu hadlewyrchu’n gywir mewn cynlluniau gofal a chymorth a bod iaith person (os BSL) yn cael ei hadlewyrchu yn eu cynlluniau gofal a chymorth unigol.
  • bod cynlluniau yn eu lle i sicrhau y gall defnyddwyr BSL fynychu gweithgareddau sy’n ddiwylliannol addas a / neu hygyrch sy’n ‘galluogi’ eu statws fel pobl fyddar.

Adnoddau

Mae'r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw adnoddau allanol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 14 Medi 2022
Diweddariad olaf: 13 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (96.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch