Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
I gofrestru fel rheolwr:
Unrhyw un o'r cymwysterau a restrir ar gyfer cofrestru fel rheolwr gofal cartref (gwasanaethau i blant a phobl ifanc).
I gofrestru fel gweithiwr:
City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
a
City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
neu
City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae unrhyw weithiwr sydd ddim yn meddu ar un o’r cymwysterau yma yn gallu rhoi cais i gofrestru trwy ddefnyddio un o’r llwybrau i gofrestru.
Fe dderbynnir unrhyw gymwysterau a rhestrwyd ar gyfer rolau uwch yn yr un maes gwasanaeth ar gyfer cofrestru yn y rôl yma hefyd.
Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol
Gall dirprwy reolwr gofal cartref (gwasanaethau i blant a phobl ifanc) gofrestru fel rheolwr os yw'n cwrdd â'r gofynion ar gyfer rheolwr gofal cartref.
Cofrestrwch yma
Gofynion eraill
Os bydd rheolwyr gofal cartref yn gweithio gydag oedolion a phlant, mae’n ddyletswydd ar y cyflogwyr i wneud yn siŵr bod y rheolwr wedi cyflawni'r unedau priodol o fewn y cymwysterau yng nghyswllt oedolion a phlant, a bod ganddo’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl.
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
Cymwysterau eraill a dderbyniwyd
Ar gyfer cofrestru fel rheolwr:
Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Plant a Phobl Ifanc) Cymru a Gogledd Iwerddon
NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal
NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)
NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
NVQ 4 mewn Gofal
Diploma mewn Rheoli Gofal Cartref
Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 neu uwch arall ar gyfer gweithwyr gofal cartref (gwasanaethau i blant a phobl ifanc).
neu
Tystysgrif Prifysgol De Cymru Camu Ymlaen i Reoli (Gofal Cymdeithasol Cymru)
ac
Wedi cofrestru ar y Diploma Lefel 5 Arwain a rheoli (unrhyw lwybr) Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y Diploma Lefel 5 Arwain a rheoli (unrhyw lwybr) ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
Neu ar gyfer y rhai a gofrestrodd cyn mis Mai 2013:
Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru
Ar gyfer cofrestru fel gweithiwr:
Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru
Nyrs gofrestredig lefel gyntaf
Gradd mewn Therapi Galwedigaethol
Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer Uwch Plant a Phobl Ifanc) Cymru a Gogledd Iwerddon
NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)
NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
NVQ 4 mewn Gofal
NVQ 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
NVQ 3 mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifanc
Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) Cymru a Gogledd Iwerddon
Bydd gweithwyr sydd heb gyflawni un o’r cymwysterau a restrir yn gallu gwneud cais i gofrestru os byddant yn cwblhau’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF) neu Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn deuddeg mis o ddechrau eu swydd. Bydd angen iddynt hefyd gyflawni un o’r cymwysterau gofynnol o fewn y cyfnod cofrestru cyntaf o dair blynedd.
Fe dderbynnir unrhyw gymwysterau a rhestrwyd ar gyfer rolau uwch yn yr un maes gwasanaeth ei dderbyn ar gyfer cofrestru yn y rôl yma hefyd.
Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd
Ar gyfer cofrestru fel rheolwr:
O ganlyniad i newid cymwysterau yng Nghymru, fe fydd cymwysterau cyfwerth o weddill y DU yn cael eu hychwanegu yn fuan. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol fel rheolwr sydd a chymhwyster o weddill y DU.
Ar gyfer cofrestru fel gweithiwr:
Gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan y Department of Education (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council yn cwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth A’R Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru (plant a phobl ifanc).
Gofynion sefydlu
Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i hyn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.
Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.
Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)
Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.
Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol
Gall dirprwy reolwr gofal cartref (gwasanaethau i blant a phobl ifanc) gofrestru fel rheolwr os yw'n cwrdd â'r gofynion ar gyfer rheolwr gofal cartref.
Cofrestrwch yma