Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
I gofrestru fel rheolwr:
Unrhyw un o'r cymwysterau a restrir ar gyfer cofrestru fel rheolwr gofal cartref (gwasanaethau i oedolion).
I gofrestru fel gweithiwr:
City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
ac
City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
neu
City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
neu
City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae unrhyw weithiwr sydd ddim yn meddu ar un o’r cymwysterau yma yn gallu rhoi cais i gofrestru trwy ddefnyddio un o’r llwybrau i gofrestru.
Fe dderbynnir unrhyw gymwysterau a rhestrwyd ar gyfer rolau uwch yn yr un maes gwasanaeth ar gyfer cofrestru yn y rôl yma hefyd.
Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol
Gall dirprwy reolwyr gwasanaeth gofal cartref (gwasanaethau i oedolion) gofrestru fel rheolwr os ydynt yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer rheolwr gofal cartref.
Cofrestrwch yma
Gofynion eraill
Os bydd dirprwy reolwyr gofal cartref yn gweithio gydag oedolion a phlant, mae’n ddyletswydd ar y cyflogwyr i wneud yn siŵr bod y rheolwr wedi cyflawni'r unedau priodol o fewn y cymwysterau yng nghyswllt oedolion a phlant, a bod ganddo’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl.
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
Cymwysterau eraill a dderbyniwyd
Ar gyfer ymarfer neu gofrestru fel rheolwr:
Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon
NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal
NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)
NVQ 4 Dyfarniad Rheolwr Cofrestredig
NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
NVQ 4 mewn Gofal
Diploma mewn Rheoli Gofal Cartref
Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 neu uwch arall ar y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer gweithiwr gofal cartref (gwasanaethau i oedolion).
neu
Tystysgrif Prifysgol De Cymru Camu Ymlaen i Reoli (Gofal Cymdeithasol Cymru)
ac
Wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer. Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
Neu ar gyfer y rhai a gofrestrwyd cyn mis Mai 2013:
Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru
Ar gyfer ymarfer neu gofrestru fel gweithiwr:
Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru
Nyrs gofrestredig lefel gyntaf
Gradd mewn Therapi Galwedigaethol
Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer Uwch Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon
NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
NVQ 4 mewn Gofal
NVQ 3 Gofal: Gofal Iechyd Meddwl
NVQ 3 Gofal: Byw gyda Chymorth
NVQ 3 Hyrwyddo Annibyniaeth
NVQ 3 Gofal: Gofal Parhaus
NVQ 3 mewn Gofal
NVQ 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon
Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Therapi Galwedigaethol
Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Ffisiotherapi
Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Adferiad
NVQ 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
NVQ 2 Gofal: Cymorth gofal cartref
NVQ 2 mewn IGC
NVQ 2 mewn Gofal
NVQ 2 Gofal: Gofal Personol Uniongyrchol
NVQ 2 Gofal: Cymorth Byw’n Annibynnol
NVQ 2 Gofal: Gofal Datblygiadol
Diploma Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon
Diploma Lefel 2 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd
Gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan Skills for Care (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council yn cwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth A’R Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru (oedolion).
Gofynion sefydlu
Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i hyn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.
Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.
Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)
Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.
Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol
Gall dirprwy reolwyr gwasanaeth gofal cartref (gwasanaethau i oedolion) gofrestru fel rheolwr os ydynt yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer rheolwr gofal cartref.
Cofrestrwch yma