Skip to main content
Hygyrchedd y safle

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19

Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd

Cymwysterau sy'n cael eu hargymell ar gyfer ymarfer:

  1. City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

ac

  1. City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

neu un o'r cymwysterau canlynol

  1. Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon

  2. Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer Uwch Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon

Bydd gweithwyr sydd heb gyflawni un o’r cymwysterau a restrir yn gallu gwneud cais i gofrestru os byddant yn cwblhau’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF) neu Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn deuddeg mis o ddechrau eu swydd. Bydd angen iddynt hefyd gyflawni un o’r cymwysterau gofynnol o fewn y cyfnod cofrestru cyntaf o dair blynedd.

Fe dderbynnir unrhyw gymwysterau a rhestrwyd ar gyfer rolau uwch yn yr un maes gwasanaeth ei dderbyn ar gyfer cofrestru yn y rôl yma hefyd.

Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru bellach ar agor


Cofrestrwch yma

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Cymwysterau eraill a dderbyniwyd

  1. Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru

  2. Nyrs gofrestredig lefel gyntaf

  3. NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal

  4. NVQ 4 Dyfarniad Rheolwr Cofrestredig

  5. NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

  6. NVQ 4 mewn Gofal

  7. Diploma Lefel 3 mewn Gofal Iechyd Clinigol

  8. Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Therapi Galwedigaethol

  9. Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Ffisiotherapi

  10. Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Ail-alluogi

  11. NVQ 3 Gofal: Gofal Parhaus

  12. NVQ 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

  13. NVQ 3 mewn Gofal

  14. NVQ 3 Hyrwyddo Annibyniaeth

  15. NVQ 3 Gofal: Gofal Iechyd Meddwl

  16. NVQ 3 Gofal: Byw gyda Chymorth

Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd

Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan Skills for Care (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council cwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth a hefyd rhaid cwblhau’r Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru (oedolion).

Gofynion sefydlu

Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i greu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc.

Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.

Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.