Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Gofynnol o dan Safonau Gofynnol Cenedlaethol:
CBAC Lefel 2 Gofal Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
a
City and Guilds Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
neu
CBAC Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
Graddau:
Prifysgol De Cymru: BA Addysg ac Ymarfer y Blynyddoedd Cynnar (gyda statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar)
Prifysgol De Cymru: Fd Addysg ac Ymarfer y Blynyddoedd Cynnar (gyda statws Ymarfer y Blynyddoedd Cynnar)
Prifysgol Metropolitan Caerdydd: BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar (EYPS)
Prifysgol Metropolitan Caerdydd: BA (Anrh) Addysg ac Ymarfer Proffesiynol Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar (EYPS)
Prifysgol Glyndŵr: Fd Astudiaethau Plentyndod Cynnar (EYPS)
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar
Prifysgol Abertawe: Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar
Prifysgol Aberystwyth: BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar (EYPS)
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: Diploma AU Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Prifysgol Caerdydd: BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarferydd Proffesiynol gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (dwyieithog)
Pryfysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg)
Prifysgol Abertawe: Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferwr y Blynyddoedd Cynnar gyda Blwyddyn Dramor
Nid oes angen cofrestru
Gofynion eraill
Mae’n rhaid i o leiaf 80 y cant o'r staff sydd ddim mewn rôl oruchwylio feddu ar gymhwyster lefel 2 o leiaf sydd wedi'i nodi yn y fframwaith hwn, ac sy’n briodol i'r swydd. Mae’n rhaid i o leiaf hanner o’r rhain (50 y cant) feddu ar gymhwyster lefel 3.
Mae’n bosibl y bydd angen i’r rheini sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig, gyda phlant rhwng pump a 12 oed, gyflawni cymhwyster gwaith chwarae sydd wedi’i osod gan SkillsActive er mwyn bodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol a gofynion rheoleiddio.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:
Mewn lleoliadau sy'n gofalu am blant dan ddwy oed, mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol bod:
- staff sy’n gofalu am fabanod yn gymwys i wneud hynny
- o leiaf 50 y cant o'r staff sy’n gofalu am fabanod wedi cael hyfforddiant yn y maes penodol hwn
- gan y person sy'n gyfrifol am ystafell y babanod o leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio gyda phlant o dan ddwy oed.
Cymwysterau eraill a dderbyniwyd
City and Guilds Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
CBAC Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
Diploma Cyntaf BTEC Lefel 2 EDEXCEL Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (a dderbynnir yn unig os dechreuwyd cyn 2014)
EDEXCEL Tystysgrif / Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant - CCLD (dim ond os dechreuwyd cyn 2014)
Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru a Gogledd Iwerddon)
Diploma Lefel 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru a Gogledd Iwerddon)
Diploma Lefel 2 CACHE mewn Gofal ac Addysg Plant (FfCC) (dim ond os yw’r person wedi cychwyn ar y cymhwyster cyn 2014)
Diploma Estynedig CACHE mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
NVQ 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
NVQ 2 mewn Gofal ac Addysg Plant
NVQ 2 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar
Tystysgrif CACHE mewn Gofal ac Addysg Plant (CCE)
Diploma Cyntaf mewn Blynyddoedd Cynnar / Nyrsio Meithrin
Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal ac Addysg Plant
NVQ 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
NVQ 3 mewn Gofal ac Addysg Plant
NVQ 3 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar
Diploma CACHE mewn Gofal ac Addysg Plant
Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Meithrin
Dyfarniad y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant i weithwyr chwarae (dyfarniadau trosiannol)
Tystysgrif Lefel 3 mewn Gweithio gyda Phlant
Diploma CACHE mewn Nyrsio Meithrin (DNN) (NNEB yn flaenorol)
Diploma mewn Gofal ac Addysg Plant (DCE)
Tystysgrif Genedlaethol mewn Gwasanaethau Gofal (Nyrsio Meithrin)
Diploma Cenedlaethol mewn Gwasanaethau Gofal (Nyrsio Meithrin)
Tystysgrif Genedlaethol mewn Astudiaethau Plentyndod (Nyrsio Meithrin)
Diploma Cenedlaethol mewn Astudiaethau Plentyndod (Nyrsio Meithrin)
Tystysgrif Genedlaethol mewn Blynyddoedd Cynnar
Diploma Cenedlaethol mewn Blynyddoedd Cynnar
Tystysgrif Lefel 4 y Brifysgol Agored mewn Ymarfer y Blynyddoedd Cynnar
Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd
Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan y Department of Education (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council gwblhau agweddau o Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth.
Gofynion sefydlu
Dylai ymarferwyr sy’n newydd i’r sector gofal plant a’r blynyddoedd cynnar neu’n newydd i sefydliad gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.
Dylai pob aelod o staff gael hyfforddiant sefydlu, sy’n cynnwys polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant ac iechyd a diogelwch, yn ystod ei wythnos gyntaf yn y swydd.