Mae’n rhaid i o leiaf 80 y cant o'r staff sydd ddim mewn rôl oruchwylio feddu ar gymhwyster lefel 2 o leiaf sydd wedi'i nodi yn y fframwaith hwn, ac sy’n briodol i'r swydd. Mae’n rhaid i o leiaf hanner o’r rhain (50 y cant) feddu ar gymhwyster lefel 3.
Mae’n bosibl y bydd angen i’r rheini sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig, gyda phlant rhwng pump a 12 oed, gyflawni cymhwyster gwaith chwarae sydd wedi’i osod gan SkillsActive er mwyn bodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol a gofynion rheoleiddio.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:
Mewn lleoliadau sy'n gofalu am blant dan ddwy oed, mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol bod:
- staff sy’n gofalu am fabanod yn gymwys i wneud hynny
- o leiaf 50 y cant o'r staff sy’n gofalu am fabanod wedi cael hyfforddiant yn y maes penodol hwn
- gan y person sy'n gyfrifol am ystafell y babanod o leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio gyda phlant o dan ddwy oed.