Adnoddau a gwybodaeth ar sut mae technoleg gynorthwyol yn gallu helpu unigolion i gadw eu hannibyniaeth a’u lles.
Y gwahaniaeth gall technoleg ei wneud
Mae'r adnodd hyfforddi hwn yn cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am y gwahaniaeth y gall technoleg gynorthwyol ei wneud. Y gobaith yw y bydd yn ennyn ymgysylltiad a chyffro ymhlith gweithwyr wrth feddwl am y cyfleoedd y gall technoleg eu cynnig.
Mae cynorthwyo pobl i gynnal eu llesiant a'u hannibyniaeth yn ganolog i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae dulliau ataliol yn cynnwys:
- rhoi gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy effeithiol
- cysylltu pobl â'u cymunedau
- canolbwyntio ar gryfderau a gallu pobl.
Gall technoleg gefnogi hyn mewn ffyrdd ymarferol.
Cyrsiau sydd ar gael
Gan fod gwahaniaethau rhwng gwasanaethau lleol, dylai'r cyrsiau gael eu cyflwyno gan hwyluswyr. Mae'r hyfforddiant wedi'i rannu'n ddau gwrs hanner diwrnod:
- y naill ar ymwybyddiaeth, trosolwg o dechnoleg gynorthwyol a theleofal
- y llall yn rhoi sylw mwy manwl i asesu.
Gellir cynnal y cyrsiau ar wahân neu gyda'i gilydd.
Gellir defnyddio'r deunyddiau hefyd i gefnogi trafodaeth tîm, mewn sesiwn oruchwylio neu fel rhan o gwrs hyfforddi arall.
Adnoddau hyfforddi
Y gwahaniaeth y gall technoleg ei wneud - adnoddau
Cardiau i gefnogi ymarferion hyfforddi
Mae'r cardiau hyn yn helpu adlewyrchu ar yr hyn a ddysgwyd.