Dweud Eich Dweud yw ein harolwg blynyddol o’r gweithlu gofal cymdeithasol.
Yr arolwg blynyddol hwn yw eich cyfle i rannu eich profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol gyda ni.
Bob blwyddyn, rydyn ni'n gofyn i chi ateb cwestiynau am bethau fel eich iechyd a'ch llesiant, cyflog ac amodau, a beth rydych chi'n ei hoffi am weithio yn y sector.
Mae rhoi gwybod beth rydych chi’n ei feddwl yn helpu i siapio’r cymorth rydyn ni a’n partneriaid yn ei gynnig.
Beth oedd canlyniadau arolwg 2025?
Fe wnaeth arolwg 2025 ddarganfod fod lefelau llesiant wedi cynyddu ymhlith y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond mae pryder hefyd yn uwch.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am ein harolygon blaenorol, gallwch edrych yn ôl ar y canfyddiadau trwy glicio ar y dolenni canlynol.
Dweud Eich Dweud 2025
Dweud Eich Dweud 2024
Dweud Eich Dweud 2023
Rydyn ni hefyd wedi defnyddio'r canfyddiadau i greu gyfres cipolwg sy'n crynhoi ac yn amlygu gwybodaeth allweddol am y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i'n gwefan Grŵp Gwybodaeth i ddarganfod mwy am y canlynol: