Jump to content
Ymarfer myfyriol: gweithredu dysgu a phwysigrwydd straeon dysgwyr
Digwyddiad

Ymarfer myfyriol: gweithredu dysgu a phwysigrwydd straeon dysgwyr

Dyddiad
25 Chwefror 2025, 1pm i 2.10pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd y sesiwn rhyngweithiol hon yn ffocysu ar sut all ymarfer myfyriol ein helpu i ddysgu. Byddwch yn treulio amser yn meddwl am eich siwrnai eich hyn ac yn rhannu straeon â rheolwyr eraill.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio ym maes gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i:

  • ffocysu ar bwysigrwydd ymarfer myfyriol a sut mae’n cefnogi eich gwaith
  • dreulio amser yn meddwl am ddysgu a’i effaith bositif ar eich gwaith
  • rhannu a dysgu oddi wrth eich gilydd mewn gofod cefnogol.