Jump to content
Deall “beth sy’n bwysig”: Cyflwyniad ymarferol a phersonol
Digwyddiad

Deall “beth sy’n bwysig”: Cyflwyniad ymarferol a phersonol

Dyddiad
14 Hydref 2025 i 20 Tachwedd 2025, 1.30pm i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunwch â ni am weithdy hanner diwrnod lle byddwn ni’n cyflwyno gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd craidd ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n dosturiol mewn gofal cymdeithasol.

Byddwn ni’n eich helpu i ganolbwyntio ar ddeall beth sy’n wirioneddol bwysig i’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.

Byddwch ni’n archwilio ac yn adeiladu ar y sgiliau rydych chi eisoes yn eu defnyddio i ffurfio perthnasoedd ystyrlon, gan eich helpu i’w rhoi ar waith gyda mwy o hyder, tra hefyd yn dysgu technegau newydd i wella eich ymarfer.

Cynnwys y sesiwn

Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch chi’n:

  • deall pwysigrwydd nodi beth sy’n bwysig i bobl sydd â phrofiad byw o ofal cymdeithasol, a pham mae’r dull hwn yn ganolog i ymarfer yng Nghymru
  • archwilio’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd sy’n cefnogi sgyrsiau sy’n seiliedig ar gryfderau
  • ymarfer defnyddio cwestiynau agored, cadarnhadau, myfyrdodau a chrynodebau (OARS)
  • adnabod trapiau sgyrsiau cyffredin — ac yn gwybod sut i’w hosgoi
  • ystyried sut i gefnogi pobl i ddarganfod eu nodau a’u canlyniadau eu hunain.

Cyn mynychu'r sesiwn hon, ewch i'n gwefan ac archwiliwch ein modiwlau e-ddysgu i gael y gorau o'r sesiwn.

Dyddiadau ac amseroedd

  • 14 Hydref, 1.30pm i 4.30pm.
  • 20 Tachwedd, 9.30am i 12.30pm.

Cynhelir y sesiynau ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams.