Digwyddiad Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2025
Ymunwch â Siobhan Maclean a Thomas Kitchen i drafod anaf moesol mewn gwaith cymdeithasol.
Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n:
- diffinio anaf moesol a chysylltu hyn â chyd-destun gwaith cymdeithasol
- archwilio sut mae ein hunaniaeth a'n gwerthoedd yn ymwneud â'n credoau a'n hymddygiadau
- trafod pwysigrwydd caredigrwydd a thosturi proffesiynol yn y gweithle.
Siaradwyr
- Siobhan Maclean, gweithiwr cymdeithasol annibynnol ac addysgwr ymarfer
- Dr Thomas Kitchen, anesthetydd ymgynghorol ac uwch ddarlithydd clinigol