Jump to content
Mae eich llesiant yn bwysig: digwyddiad rhwydweithio
Digwyddiad

Mae eich llesiant yn bwysig: digwyddiad rhwydweithio

Dyddiad
19 Tachwedd 2025, 10am i 12pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd y digwyddiad hwn yn dod â phobl at ei gilydd i rannu gwybodaeth, syniadau ac ymarferion i gefnogi llesiant yn y gwaith.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer pawb sy’n gweithio o fewn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar sydd gyda diddordeb mewn cefnogi llesiant yn y gwaith.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • ystyried a yw gweithio mewn cyflwr o bryder yn dod yn norm mewn gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar
  • gofyn sut y gallwn flaenoriaethu ein lles ein hunain a thimau mewn gweithleoedd prysur a llawn straen.

I lywio'r sgwrs, byddwn yn defnyddio Ymrwymiad 1 y fframwaith Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu.