Bydd y digwyddiad hwn yn dod a phobl at ei gilydd i rannu gwybodaeth, syniadau ac ymarferion i gefnogi llesiant yn y gwaith.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon ar gyfer pawb sy’n gweithio o fewn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar sydd gyda diddordeb mewn cefnogi llesiant yn y gwaith.
Cynnwys y sesiwn
Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i:
- gysylltu â phobl o’r un anian â chi
- ddarganfod gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i gefnogi llesiant yn y gwaith
- ddysgu am ein cymuned ymarfer llesiant.