Ar-lein
Mae'r sesiwn hon yn cael ei chynnal gan Social Work England.
Ymunwch ag arweinwyr pedwar rheolydd gwaith cymdeithasol y Deyrnas Unedig wrth iddyn nhw drafod eu profiadau cyffredin o reoleiddio gwaith cymdeithasol. Mae'r sesiwn yn edrych ar y rôl y mae rheoleiddio yn ei chwarae wrth gasglu, dadansoddi a rhannu data i greu newid cadarnhaol i'r proffesiwn gwaith cymdeithasol.
Cyflwynwyr:
- Colum Conway, Prif Weithredwr, Social Work England
- Declan McAllister, Prif Weithredwr Dros Dro, Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon
- Maree Allison, Prif Weithredwr, Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban
- Sarah McCarty, Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru.