Jump to content
Gwobrau a chymrodoriaethau
Digwyddiad

Gwobrau a chymrodoriaethau

Dyddiad
17 Gorffennaf 2025, 11am i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a National Institute for Health and Care Research (NIHR)

Rydyn ni’n falch o gynnal cyfres o weminarau i dynnu sylw at chwe phartneriaeth ymchwil-ymarfer gofal cymdeithasol.

Mae'r weminar hwn yn gyfle i glywed am y gwobrau ymchwil mae'r partneriaethau yn eu darparu.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r weminar hon ar gyfer penaethiaid gwasanaethau ac uwch-arweinwyr sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol ar draws y DU.

Cynnwys y sesiwn

Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i:

  • ddysgu sut mae partneriaethau ymchwil-ymarfer yn medru adeiladu cynhwysedd mewn gofal cymdeithasol
  • glywed am brofiadau arweinwyr prosiectau
  • dysgu am fuddion partneriaethau ymchwil.

Bydd y weminar hwn yn ddefnyddiol i uwch-arweinwyr a rheolwyr sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar draws y DU. Rhannwch gyda’ch cydweithwyr ar draws y DU fydd â diddordeb yn y weminar hwn.