Jump to content
Gweminar: creu amgylcheddau therapiwtig ar gyfer pobl sy'n niwroamrywiol neu sydd wedi profi trawma
Digwyddiad

Gweminar: creu amgylcheddau therapiwtig ar gyfer pobl sy'n niwroamrywiol neu sydd wedi profi trawma

Dyddiad
2 Gorffennaf 2025, 10.30am i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein (Microsoft Teams)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru gyda Straen Trawmatig Cymru a Abodiology Studio

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r weminar hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant mewn gofal preswyl a allai fod wedi profi trawma, gan gynnwys:

  • pobl sy'n datblygu gwasanaethau preswyl i blant
  • rheolwyr preswyl i blant
  • gweithwyr preswyl i blant
  • pobl sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliadau preswyl
  • pobl sy'n cefnogi'r gweithlu mewn lleoliadau preswyl i blant.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn dysgu:

  • y gwahaniaethau rhwng amgylcheddau sy'n ystyriol o drawma ac amgylcheddau ymatebol i drawma
  • pam fod amgylcheddau yn bwysig
  • pam y gall rhai amgylcheddau sbarduno trawma presennol, neu achosi trawma
  • pam y gall rhai amgylcheddau helpu i wella trawma
  • sut y gall amgylcheddau effeithio ar ymddygiad
  • sut i greu lleoedd cyfannol sy'n annog llesiant a chysylltiadau
  • strategaethau i wella lleoedd mewn cartrefi gofal preswyl
  • y newidiadau y gallwch eu gwneud i'ch amgylcheddau
  • ffyrdd ymarferol o ddod yn fwy ymatebol i drawma
  • pam mae rheolaeth a hunan-ymwybyddiaeth, hunan-reoleiddio, a hunan-liniaru yn bwysig mewn cartrefi gofal preswyl
  • y dulliau cymorth y gallwch eu defnyddio
  • y deunyddiau, lliwiau, lleoliadau dodrefn, tymheredd, goleuadau, arogleuon, sy'n helpu cartrefi gofal preswyl i fod yn fwy cynhwysol ac yn annog cysylltiad a thawelwch.

Am y cyflwynydd

Susanna Smith, Seicolegydd a Dylunydd Amgylcheddol
Abodiology Studio

Mae Susanna wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers dros 20 mlynedd.

Mae Susanna yn arbenigo mewn creu amgylcheddau sy’n ystyriol yn therapiwtig, ac yn ymateb i drawma.

Mae hi'n defnyddio seicoleg, niwroleg a gwyddoniaeth ymddygiadol i greu amgylcheddau mewn gofal preswyl, addysg ac iechyd. Mae'r amgylcheddau y mae'n eu creu yn canolbwyntio ar niwroamrywiaeth ac ymatebolrwydd i drawma i wella cysylltiad, llesiant a hunanreoleiddio.

Archebu eich lle