Jump to content
Gweithdy rheoleiddio i gyflogwyr - Llandudno
Digwyddiad

Gweithdy rheoleiddio i gyflogwyr - Llandudno

Dyddiad
26 Mawrth 2025, 9.30am i 3pm
Lleoliad
Gofal Cymdeithasol Cymru, Adeiliadau'r Llywodraeth, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy LL31 9RZ
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae'r digwyddiad yma ar gyfer:

Cyflogwyr gweithwyr cofrestredig ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.

Mae’n hanfodol bod gennych ddealltwriaeth a phrofiad blaenorol o gofrestru a chefnogi staff gyda chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yn ystod y digwyddiad:

  • bydd ein staff yn siarad am gofrestru, cymwysterau a'r broses addasrwydd i ymarfer
  • byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein prosesau cofrestru ac addasrwydd i ymarfer
  • byddwch yn cael y cyfle i rannu eich profiadau a syniadau am sut gallwn ni wella ein prosesau.

Bydd lluniaeth a chinio ar gael.