Jump to content
Gweithdy i ymarferwyr: gwneud Cynnig Rhagweithiol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant
Digwyddiad

Gweithdy i ymarferwyr: gwneud Cynnig Rhagweithiol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant

Dyddiad
24 Mehefin 2025, 10am i 11.10am
Lleoliad
Ar-lein (Zoom)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y Cynnig Rhagweithiol a sut gallech chi ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eich lleoliad blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer ymarferwyr, myfyrwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sy’n gweithio yn y sector gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwch yn:

  • dysgu sut gall yr Addewid Cymraeg a cyrsiau Camau eich helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eich lleoliad
  • darganfod sut gallech chi gymryd camau bach i ddangos eich gwaith tuag at y Cynnig Rhagweithiol
  • dysgu am y lefelau efydd, arian ac aur y Cynnig Rhagweithiol ac ystyried pa un fydd yn gweithio orau yn eich lleoliad
  • darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael trwy Cydlynwyr Cymorth Iaith Cymraeg Cwlwm a’r cyrsiau Camau i ddysgu Cymraeg.