Mae’r gweithdy hwn yn gyfle i ddysgu sut i gefnogi eich iechyd meddwl chi â’ch tîm.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio yng ngofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn, byddwch yn dysgu technegau newydd er mwyn adeiladu pecyn cymorth i’ch helpu i wella’ch llesiant chi a’ch tîm.
Byddwch yn dysgu am:
- lleihau pwysau
- cefnogi pobl i fod yn fwy gwydn
- rheoleiddio emosiynau
- amddiffyn eich llesiant
- amddiffyn llesiant eich tîm
- deall beth sy'n achosi straen yn y gwaith a sut mae'n ein effeithio ni
- adnabod pan mae rhywun yn brwydro gyda’i iechyd meddwl
- sut i gael sgwrs am iechyd meddwl.