Jump to content
Gweithdy i gyflogwyr: cefnogi gweithwyr i gyflawni cymwysterau yn eich gweithle
Digwyddiad

Gweithdy i gyflogwyr: cefnogi gweithwyr i gyflawni cymwysterau yn eich gweithle

Dyddiad
13 Mawrth 2025, 10am i 3pm
Lleoliad
Abertawe
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae'r gweithdy hwn yn gyfle i rwydweithio gyda rheolwyr a chyflogwyr eraill wrth ddysgu'r hyn sydd ei angen i gefnogi gweithwyr i gyflawni eu cymwysterau.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae'r sesiwn hon ar gyfer:

  • rheolwyr mewn lleoliadau gofal cymdeithasol
  • cyflogwyr mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • edrych ar y broses sefydlu a sut y gallwch gefnogi gweithwyr wrth iddynt fynd ymlaen i gwblhau eu cymwysterau craidd ac ymarfer
  • rhannu sut y gallwch ddefnyddio tystiolaeth i gefnogi'r broses sefydlu, a'r llwybr asesu cyflogwyr i gofrestru
  • egluro'r cymwysterau lefel 2 a 3 iechyd a gofal cymdeithasol
  • trafod ffyrdd y gallwch chi gefnogi eich gweithwyr i gyflawni eu cymwysterau
  • dweud wrthych am y Canllaw arfer gorau i ddysgwyr, cyflogwyr a rheolwyr.