Jump to content
Grŵp rhwydweithio: cefnogi dyfodol mewn gofal cymdeithasol
Digwyddiad

Grŵp rhwydweithio: cefnogi dyfodol mewn gofal cymdeithasol

Dyddiad
9 Medi 2025, 1pm i 3pm
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Dyma gyfarfod cyntaf grŵp rhwydweithio newydd ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda myfyrwyr gwaith cymdeithasol neu sy'n cefnogi gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.

Bydd y grŵp yn cwrdd unwaith pob tri mis.

Ar gyfer pwy mae’r grŵp hwn

Mae’r grŵp hwn ar gyfer unrhyw un sy’n cefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, gan gynnwys:

  • addysgwyr ymarfer
  • goruchwylwyr safle
  • rheolwyr
  • cydlynwyr ymarfer
  • mentoriaid gwaith cymdeithasol.

Cynnwys y sesiwn

Fel aelod o’r grŵp hwn, byddwch yn:

  • cwrdd â phobl mewn rolau tebyg i chi a chael mynediad at gefnogaeth eich cyfoedion
  • trafod heriau a rhannu dulliau positif
  • clywed gan arbenigwyr trwy gydol y flwyddyn.

Yn sesiwn gyntaf y grŵp, byddwn yn:

  • cynllunio ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn
  • penderfynu ar gyfeiriad y grŵp.