Jump to content
Cynhadledd urddas, iaith a gofal
Digwyddiad

Cynhadledd urddas, iaith a gofal

Dyddiad
5 Mawrth 2025, 9am i 3.30pm
Lleoliad
Cyffordd Llandudno
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunwch â ni i rannu profiadau positif o weithio yn Gymraeg o fewn y sector gofal cymdeithasol. Dewch o hyd i’r oll gymorth sydd ar gael i bob sy’n darparu gwasanaethau iaith Gymraeg.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw un sy’n darparu neu’n cefnogi pobl eraill i ddarparu gwasanaethau iaith Gymraeg. Ac i unrhyw un sydd eisiau gwella’i sgiliau iaith Gymraeg er mwyn darparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg. Gan gynnwys:

  • ymarferwyr
  • rheolwyr
  • arweinwyr
  • myfyrwyr
  • cyflogwyr.

Cynnwys y sesiwn

Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i:

  • godi hyder yn eich sgiliau iaith Gymraeg
  • ddysgu mwy am ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg
  • ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i’ch helpu i wella Cynnig Cymraeg eich sefydliad.