Jump to content
Cyfres gweithdy: siarad yn ddiogel yn y gweithle
Digwyddiad

Cyfres gweithdy: siarad yn ddiogel yn y gweithle

Dyddiad
3 Mawrth 2025 i 26 Mawrth 2025, 9.45am i 11am
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru ac Institute of Health and Social Care Management

Yn y gyfres hon, byddwch yn dysgu ystyr siarad yn ddiogel, yr heriau o siarad yn ddiogel a sut i greu amgylchedd saff.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn

Mae’r gyfres hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar. Bydd y sesiynau’n enwedig o ddefnyddiol ar gyfer pobl sydd â’r gallu i ddylanwadu newid yn eu sefydliadau wrth ddefnyddio beth maen nhw’n dysgu.

Cynnwys y sesiwn

Mae’r gyfres hon yn cael ei ddarparu dros tair sesiwn.

Yn sesiwn 1, byddwch yn:

  • dysgu ystyr siarad yn ddiogel
  • deall eich rôl a’ch cyfrifoldebau o safbwynt cyfreithiol, moesol a’n seiliedig ar brosesau
  • trafod pwysigrwydd arweinyddiaeth dosturiol er mwyn cefnogi a grymuso timoedd i siarad.

Yn sesiwn 2, byddwch yn:

  • dysgu’r sgiliau rydych i angen er mwyn creu amgylchedd diogel
  • dysgu sut i adnabod amgylchedd diogel neu anniogel
  • trafod heriau siarad yn ddiogel.

Yn sesiwn 3, byddwch yn:

  • dysgu sut i ddefnyddio beth rydych chi wedi dysgu’n ymarferol
  • dysgu sgiliau i’ch helpu i oresgyn heriau wrth siarad yn ddiogel
  • darganfod sut i weithredu beth rydych chi wedi dysgu o fewn eich tîm.

Archebwch eich lle