Jump to content
Cyfres gweithdy: pecyn cymorth iechyd meddwl a llesiant
Digwyddiad

Cyfres gweithdy: pecyn cymorth iechyd meddwl a llesiant

Dyddiad
4 Mawrth 2025 i 25 Mawrth 2025, 1.30pm i 3.30pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Cortecs

Bydd y gyfres hon yn eich helpu i ychwanegu amrywiaeth o dechnegau i’ch pecyn cymorth iechyd meddwl.

Mae angen mynychu pob un o’r pedair sesiwn i wir fuddio o'r gyfres.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r gyfres hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yng ngofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y gyfres

Dros bedair sesiwn, byddwch yn dysgu technegau newydd er mwyn adeiladu pecyn cymorth i’ch helpu i wella’ch llesiant.

Byddwch yn dysgu am:

  • lleihau pwysau
  • cefnogi eich hun i fod yn fwy gwydn
  • rheoleiddio eich emosiynau
  • amddiffyn eich llesiant.