Rydyn ni’n cynnal digwyddiad rhwydweithio i fentoriaid ledled Cymru rannu arfer gorau.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i aelodau o'r rhwydwaith ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau (trwy gyfathrebu cydweithredol).
Beth fyddwn ni'n ei gynnwys
Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i:
- gysylltu â mentoriaid o bob cwr o Gymru
- glywed enghreifftiau o arfer gorau gan ymarferwyr, mentoriaid ac arweinwyr eraill
- ddathlu'r hyn sy'n mynd yn dda
- feddwl am yr heriau rydyn ni'n eu hwynebu a'r rhai rydyn ni wedi'u goresgyn
- cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer myfyriol
- cwrdd â phobl newydd.
Byddwch yn rhan o'r diwrnod
Rydyn ni’n chwilio am gyfranwyr ar gyfer y digwyddiad ar hyn o bryd. Byddwn wrth ein bodd yn clywed gennych:
- os oes gennych brosiect, darn o waith neu arloesedd rydych chi'n gweithio arno, yr hoffech chi ei rannu
- os oes gennych chi benbleth neu her rydych chi'n ei hwynebu, yr hoffech chi gael cefnogaeth gyda hi mewn sesiwn fyfyriol.
Os hoffech gyfrannu, cwblhewch y Ffurflen Microsoft fer hon.